Ewch i’r prif gynnwys
David Callander

Dr David Callander

Uwch Ddarlithydd

Ysgol y Gymraeg

Email
CallanderD@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29225 11714
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 1.73, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Rwy’n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a barddoniaeth gynnar Gymraeg yn enwedig. Mae fy ymchwil yn gymharol ac yn ceisio edrych ar yr hyn y gallwn ei ddysgu o ddod â thraddodiadau llenyddol tra gwahanol ynghyd, gan gymharu testunau Cymraeg Canol, Hen Saesneg, Saesneg Canol, a Lladin canoloesol â'i gilydd. Mae gennyf ddiddordeb hefyd i gymharu’r modern a’r canoloesol, a hynny mewn sawl ffordd. Rwy’n astudio fel y mae theori lenyddol fodern yn gallu cyfoethogi ein dealltwriaeth o lenyddiaeth ganoloesol ond hefyd y ffordd mae’r llenyddiaeth ganoloesol ei hun yn gallu herio a chyfrannu at theori lenyddol gyfoes. Mae darllenwyr diweddarach o lenyddiaeth ganoloesol wedi mynd â’m sylw i hefyd, yn enwedig ysgrifenwyr y cyfnod modern cynnar a gopïai lenyddiaeth ganoloesol a’i thrawsffurfio at eu dibenion eu hunain.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar brosiect i olygu'r cerddi Cymraeg a briodolir i Fyrddin ac yn darllen y cerddi'n fanwl. Bydd fy llyfr diweddaraf Trawsffurfio'r Seintiau, sy'n seiliedig ar antholeg hagiograffaidd dairieithog, sef Yale, Osborn fb229, yn cael ei gyhoeddi'n fuan gan Wasg Prifysgol Cymru.

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2014

2013

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Gwefannau

Llyfrau

Monograffau

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
  • Llenyddiaeth Hen Saesneg a Saesneg Canol (y farddoniaeth yn enwedig)
  • Llenyddiaeth Arthuraidd
  • Llenyddiaeth gymharol mewn cyd-destun canoloesol
  • Theori naratif a theori barddoniaeth
  • Testunau Lladin o Gymru (bucheddau’r saint yn enwedig)
  • Golygu testunau canoloesol (barddoniaeth yn enwedig)
  • Derbyniad llenyddiaeth ganoloesol mewn cyfnodau diweddarach

Rwy’n croesawu ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr ôl-raddedig sydd â diddordeb yn y meysydd hyn.

Rwyf hefyd yn Gyd-Ymchwilydd ar brosiect AHRC mawr ar farddoniaeth Myrddin (gwerth y grant: £716,013 https://gtr.ukri.org/projects?ref=AH%2FW000717%2F1).

Addysgu

Rwy'n arwain ar y modiwlau canlynol ar hyn o bryd:

BA Cymraeg

  • Myrddin a Merlin
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig
  • Ymchwilio Proffesiynol
  • Ymchwilio Proffesiynol Estynedig

Rwyf hefyd yn cyfrannu neu wedi cyfrannu i'r modiwlau canlynol:

BA Cymraeg

  • Herio’r Traddodiad Llenyddol
  • Trafod ein Llên
  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Y Gymraeg Heddiw
  • Modern Welsh Literature
  • Dafydd ap Gwilym
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Ymchwilio Proffesiynol

MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

  • Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol
  • Archwilio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
  • Pwnc Arbenigol
  • Prosiect Ymchwil Estynedig

Bywgraffiad

Swyddi Academaidd

  • Awst 2022 - heddiw: Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • Hydref 2019 - Gorffennaf 2022: Darlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • Hydref 2018 - Medi 2019: Cymrawd Ymchwil Iau, Coleg y Santes Catrin, Caergrawnt
  • Hydref 2017 - Medi 2018: Cymrawd Ymchwil, Prosiect Vitae Sanctorum Cambriae, Caergrawnt

Addysg a Chymwysterau

  • 2019 Tystysgrif Uwchraddedig Dysgu mewn Addysg Uwch, Prifysgol Caergrawnt
  • 2017 PhD, ASNC, Prifysgol Caergrawnt
  • 2015-16 Ysgoloriaeth Astudio Tramor yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, Eberhard Karls Universität Tübingen
  • 2013 MPhil, ASNC, Prifysgol Caergrawnt
  • 2012 BA, Saesneg, Prifysgol Rhydychen

Aelodaethau proffesiynol

Cymrawd o'r Academi Addysg Uwch
Darlithydd cysylltiol, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Pwyllgorau ac adolygu

Cyd-olygydd Llên Cymru
Golygydd adolygiadau, Studia Celtica
Aelod o Fwrdd Golygyddol Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium