Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant yng nghystadleuaeth traethawd israddedig y Ffederasiwn Peridontoleg Ewropeaidd

13 Mehefin 2018

Natasha West

Mae’r Ffederasiwn Peridontoleg Ewropeaidd (EFP) wedi cyhoeddi mai Natasha West, myfyrwraig ail flwyddyn yn yr Ysgol Deintyddiaeth, yw enillydd cystadleuaeth traethawd israddedig newydd.

Roedd y gystadleuaeth, yr un gyntaf o’r fath y mae’r EFP wedi’i chynnal, yn gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd byr mewn ymateb i’r cwestiwn “Pam y byddwn i’n ystyried gyrfa mewn peridontoleg?”  Wynebodd Natasha gystadleuaeth gref o ysgolion deintyddol o 20 o wledydd.  Cafodd ei henwi’n enillydd ochr yn ochr â myfyriwr deintyddol yn y bedwaredd flwyddyn o Glasgow, a myfyriwr deintyddol yn y drydedd flwyddyn o Umea, Sweden.

Mae peridontoleg, sy’n golygu ‘o amgylch y dant’ yn yr iaith Groeg, yn edrych ar yr astudiaeth o feinwe caled a meddal yn y geg, sy’n cefnogi’r dannedd.  Mae yna gysylltiadau pendant rhwng Peridontitis a phroblemau iechyd eraill, felly gallai dilyn gyrfa yn y maes hwn arwain at ymchwil yn ogystal ag arfer.

Gwobr Natasha yw lle yn y digwyddiad Peridontoleg Ewropeaidd blaenllaw, EuroPerio9 yn Amsterdam, a 250 ewro.  Pan ofynnwyd iddi am ei buddugoliaeth a’r cyfle i fynd i’r digwyddiad mawreddog hwn, dywedodd:

“Mae’n fraint cael y cyfle i glywed arweinwyr y byd yn y maes peridontoleg yn cyflwyno eu hymchwil diweddaraf. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld y sesiwn llawdriniaeth fyw i gael mwy o ddealltwriaeth o’r arbenigedd, ac wrth gwrs i grwydro dinas Amsterdam.”

Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol, Alastair Sloan, ei longyfarchiadau:

“Roeddwn i’n falch iawn o weld bod gan yr Ysgol ddiddordeb mawr a nifer o ymgeiswyr yng Ngwobr Traethawd Israddedig yr EFP eleni o’n rhaglenni Israddedig amrywiol. Mae ennill yn dipyn o gamp; dwi wrth fy modd i Natasha ac, ynghyd â gweddill yr Ysgol, yn falch iawn ohoni. Dwi’n siŵr y bydd hi’n mwynhau ei hamser yn EUROPERIO9 yn fawr ac yn dysgu llawer o fynychu’r gynhadledd fawr a chyffrous hon. Da iawn Natasha!”

Mae’r traethawd yn dangos angerdd Natasha dros y pwnc ac yn nodi nifer o ddulliau a syniadau y gellid eu defnyddio yn ystod ei gyrfa, wedi’u llywio gan yr awydd i “gynnig y gofal gorau i gleifion”.

Rhannu’r stori hon