Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyrwyr a staff ffisiotherapi’n chwarae rhan allweddol ym maes chwaraeon elît

25 Mawrth 2024

Y tu ôl i lenni twrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad eleni, roedd Kate Davis, sydd â gradd mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd, yn gweithio'n galed i gadw carfan rygbi Lloegr mewn cyflwr corfforol gwych.

Kate Davis yw ffisiotherapydd tîm rygbi Lloegr, ac mae’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o optimeiddio perfformiad y chwaraewyr a lleihau niwed o anafiadau hyd yr eithaf.

Dyma waith y mae’n falch o’i wneud, o ystyried yr holl sgiliau a gwybodaeth a ddysgodd wrth astudio ar gyfer ei gradd mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd hi:

Roedd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi rhoi syniad gwych i mi o sbectrwm eang ymarfer ffisiotherapi ac wedi rhoi fframwaith clinigol i mi ar gyfer fy ngyrfa. Mae'n fraint cael gweithio’n rhan o dîm perfformiad carfan Lloegr, yn enwedig yn rhan o dwrnamaint y Chwe Gwlad.
Kate Davis

Yn rhannu balchder Kate mae John Miles, a gwblhaodd y rhaglen MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd bellach yn gweithio gyda charfan Cymru yn ystod twrnamaint y Chwe Gwlad.

Mae Kate a John yn ymuno â llawer o gyn-fyfyrwyr a staff Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd sydd â gwerth degawdau o brofiad yn ffisiotherapyddion ym maes chwaraeon elît yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Yr Athro Nicki Phillips OBE yw Rheolwr y Rhaglen MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer. Mae ei phrofiad helaeth, a gafwyd dros gyfnod o 40 mlynedd, yn deillio o weithio gyda thimau codi pwysau Cymru a Phrydain, ochrau’r Undeb Rygbi ac amryw dimau chwaraeon yn y Gemau'r Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Yn addysgu ar y rhaglen MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer hefyd mae Sian Knott, sydd ag arbenigedd a ddatblygwyd dros gyfnod o bron i 30 mlynedd mewn rheoli anafiadau chwaraeon. Mae wedi gweithio mewn sawl maes chwaraeon, gan gynnwys gyda Gymnasteg Cymru, Pêl-rwyd Cymru, Cyffwrdd Cymru a'r Undeb Rygbi broffesiynol. Mae Sian wedi gweithio yn chwech o Gemau’r Gymanwlad gyda Thîm Cymru, yn nhair o’r Gemau Olympaidd yn ystod yr haf ac yn nwy o’r Gemau Olympaidd yn ystod y gaeaf gyda Thîm Prydain Fawr. Hi fydd y dirprwy brif ffisiotherapydd ym Mharis yn 2024.

Mae gan Dr Liba Sheeran, Darllenydd Ffisiotherapi, dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes chwaraeon, ar ôl gweithio gydag Athletau Cymru a'r DU ac mewn digwyddiadau aml-chwaraeon fel y Gemau Olympaidd, Gemau’r Gymanwlad a Gemau Prifysgolion y Byd.

Ychwanegiad diweddar at dîm Prifysgol Caerdydd o academyddion Ffisiotherapi yw’r cyn-fyfyriwr Chris Jenkins, a oedd yn rhan o dwrnamaint Cwpan Rygbi'r Byd yn Siapan yn 2019. Ar hyn o bryd, mae'n addysgu ar y rhaglen Ffisiotherapi israddedig, ac mae ganddo fwy na 15 mlynedd o brofiad o weithio ym maes chwaraeon elît i arwain myfyrwyr presennol sy'n ystyried dechrau neu wella eu gyrfaoedd ym maes ffisiotherapi.

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr Ffisiotherapi israddedig ac ôl-raddedig yn elwa o sgiliau a phrofiad eu darlithwyr yn y maes hwn, ac mae llawer yn gobeithio cerdded yn ôl eu traed, yn union fel y mae Kate Davis yn ei wneud heddiw.

Rhannu’r stori hon