Ewch i’r prif gynnwys

Dod â ffigurau hanesyddol yn fyw gyda deallusrwydd artiffisial (AI)

20 Mawrth 2024

Mae tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn dod ag arbenigwyr o ddisgyblaethau amrywiol at ei gilydd i drafod y posibilrwydd o gymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn amgueddfeydd ac archifau.

Fel rhan o ddigwyddiadau ymylol gŵyl AI UK Sefydliad Alan Turing 2024, cynhelir y digwyddiad 'Past Meets Future' ar-lein ar 27 Mawrth.

Bydd ‘Past Meets Future’ yn dod ag arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau i fynd i'r afael â'r manteision a'r risgiau posibl o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector treftadaeth, gan gwmpasu materion fel moeseg, effaith gymdeithasol a phrofiad ymwelwyr.

Un o brif amcanion y digwyddiad yw sbarduno cymuned 'fywiog, rhyngddisgyblaethol a chroesawu’r rhai sydd yn cymryd o bob maes, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, amgueddfeydd, archifau a'r cyhoedd.'

Dywedodd Dr Yipeng Qin, Arweinydd y Grŵp Ymchwil Golwg Cyfrifiadurol yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Dychmygwch y profiad rhyfeddol o gael sgwrs go iawn gyda Florence Nightingale, y nyrs arloesol a'r ddiwygwraig cymdeithasol, wrth i'w phersonoliaeth benderfynol a'i thosturi ddod yn fyw trwy ddeallusrwydd artiffisial.

"Mae'r cyfuniad hwn o dechnoleg a hanes yn dal y pŵer i chwyldroi sut rydym yn cysylltu â'r gorffennol. Ond a all personas deallusrwydd artiffisial ymgorffori ysbryd a hanfod y rhai a adawodd farc annileadwy ar gymdeithas?

"Bydd ein digwyddiad yn archwilio ffiniau'r ymdrech ryngddisgyblaethol hon, lle mae deallusrwydd artiffisial, adrodd straeon amgueddfa, profiad y defnyddiwr, y gwyddorau cymdeithasol, moeseg, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant, animeiddio, y celfyddydau a diwydiant yn cydgyfeirio."

Mae Dr Qin yn trefnu ‘Past Meets Future’ ochr yn ochr â chyd-aelodau o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Zhuoling Jiang a Mouhamad Aboshokor.

Mae Dr Daniel Finnegan, Athro Cyswllt ac Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, hefyd yn siaradwr yn y digwyddiad.

Dywedodd Dr Finnegan: "Wrth i ddeallusrwydd artiffisial a Modelau Iaith Fawr (LLM) ddod yn fwy soffistigedig, rydym yn cyrraedd y pwynt lle gellir eu defnyddio i yrru sgyrsiau rhyngweithiol, heb eu sgriptio a heb eu hymarfer, gydag afatarau digidol yn cynrychioli pobl o'r gorffennol.

"Mae ein hymchwil yn archwilio sut i ddylunio a datblygu'r afatars siaradus hyn mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar bobl, fel eu bod yn darparu'r cyfleustodau mwyaf posibl i'n partneriaid treftadaeth ddiwylliannol.

"Rydym yn ymchwilio i'r ffiniau o amgylch deialog, curadu, disgwyliadau ymwelwyr, cyfyngiadau technegol a sut i arloesi o'u cwmpas, a'r pragmateg o amgylch technoleg arloesol sydd wedi'i hymgorffori mewn safleoedd o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol."

Mae mwy o fanylion am y digwyddiad i'w gweld ar wefan Past Meets Future.

Rhannu’r stori hon