Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn canfod bod llawer o gymunedau Du yn byw mewn “pandemig o fewn pandemig”

24 Mai 2022

Woman with her eyes closed lying among leaves with flowers in her hair.

Mae Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng pandemig COVID-19 a'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM), gan ei ddisgrifio fel "pandemig o fewn pandemig".

Canfu'r papur, a ysgrifennwyd gan Dr April-Louise Pennant ac a gyhoeddwyd gan Taylor & Francis Online, fod cyfatebiaeth rhwng y pandemig a'r mudiad BLM a dileu merched a menywod Du yn y ddau achos.

Yn y papur, tynnodd Dr Pennant sylw at adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a ddangosodd sut y lladdwyd poblDdu yn anghymesur gan COVID-19. Canfu fod menywod Du 4.3 gwaith yn fwy tebygol o farw na gwrywod a benywod ag ethnigrwydd Gwyn.

Roedd ei phapur hefyd yn tynnu sylw at ymateb araf Llywodraeth Cymru a Lloegr i gyfraddau anghymesur marwolaethau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng nghyswllt COVID-19.

Roedd y goblygiadau'n cynnwys cymorth penodol Menter Ubele i bobl BAME yng nghyswllt COVID-19 yn Lloegr, dan arweiniad Yvonne Field.

Bu'r Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd hefyd yn cadeirio adroddiad BAME Grŵp Cynghori COVID-19 Prif Weinidog Cymru ar yr is-grŵp sosio-economaidd.

Dywedodd Dr Pennant, "Yng nghyd-destun llofruddiaeth George Floyd a llawer o bobl ddu heb arfau yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, mae methiannau i gynnwys tynged merched a menywod Du fel Breonna Taylor a Sarah Reed, a ddioddefodd yr un trais a gymeradwywyd gan y wladwriaeth â'u cymheiriaid gwrywaidd Du heb yr un amlygiad nac unrhyw gyfiawnder."

Roedd y papur yn tynnu ar gyfweliadau gyda phump ar hugain o raddedigion benyw Du Prydeinig o'i gwaith ymchwil PhD.

Nododd y graddedigion, ar sail eu profiadau a'u teithiau addysgol eu hunain, fod menywod a merched Du wedi gorfod ysgwyddo 'baich gofal annheg' drostynt eu hunain ac eraill.

Soniodd Dr Pennant fod merched a menywod Du yn anweledig yng nghyd-destun y pandemig a'r mudiad BLM,

Fel cymdeithas, mae angen i bawb ohonon ni fod yn chwilio am ferched a menywod Du, oherwydd yr erledigaeth hanesyddol a pharhaus maen nhw wedi bod yn ei dioddef, yn cael hyd i ffordd trwyddi, ac yn ei goresgyn mewn distawrwydd.
Dr April-Louise Pennant Leverhulme Trust Early Career Fellow

"Am y rheswm hwn, mae'n hanfodol bod pawb yn ymwybodol bod merched a menywod Du yn fodau dynol a bod terfynau o ran faint gallan nhw ei ddioddef."

Aeth ymlaen, "Fel menyw Ddu, rwy'n dadlau o blaid cyfiawnder cymdeithasol, empathi a dealltwriaeth i bawb.

"Rwy'n defnyddio fy ngwaith i gynnig naratifau amgen, gan ganoli profiadau a theithiau menywod a merched duon mewn addysg a’r tu hwnt, sy’n bwysig, er eu bod yn cael eu diystyru, gan fod cymaint yn wir i'w ddysgu er budd pawb."

Cyfeiriodd ymchwil Dr Pennant at yr angen at ddatgymalu'r gormes croestoriadol y mae ei gwaith yn dangos sy’n amlwg yn y gymdeithas.

Roedd y papur hefyd yn argymell yr angen i ddeall a darparu gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant pwrpasol a phriodol mewn lleoliadau addysgol.

Galwodd ar lunwyr polisi, sefydliadau addysgol a staff i ddeall effaith barhaol y "pandemig o fewn pandemig" ar ferched a menywod Du sy’n fyfyrwyr, yn ogystal â chymunedau eraill yr effeithiwyd arnynt ac sydd wedi’u gwthio i’r cyrion.

Wrth drafod ymchwil yn y dyfodol, daeth i'r casgliad, "Oherwydd y mewnwelediadau cyfoethog a gasglwyd o'm hymchwil wrth gyfweld â'r graddedigion, mae cymaint o ddoethineb, llawenydd a phŵer i'w rhannu.

"Byddaf yn parhau i ysgrifennu papurau am brofiadau addysgol menywod a merched Du yn ogystal â sut mae'r rhain yn bwydo i'r gweithle.

"Byddaf hefyd yn cyflwyno fy ymchwil mewn cynadleddau a digwyddiadau perthnasol. Ar hyn o bryd rwy'n ysgrifennu monograff i sicrhau bod fy nghanfyddiadau ar gael i'r cyhoedd."

Darllen y papur yn llawn: Who’s checkin’ for Black girls and women in the “pandemic within a pandemic”? COVID-19, Mae Bywydau Du o Bwys a goblygiadau addysgol

Rhannu’r stori hon