Menter newydd i fynd i'r afael â phydredd dannedd ymhlith pobl ifanc
17 Chwefror 2023
Mae menter newydd sy'n ceisio mynd i'r afael â phydredd dannedd mewn disgyblion ysgolion uwchradd yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion ledled y DU.
Mae pydredd dannedd yn effeithio ar draean o bobl ifanc 12-15 oed, gyda'r nifer hwn yn cynyddu i hanner mewn ardaloedd o dlodi. Mae'r symptomau'n aml yn cynnwys dannedd, colli cwsg a phroblemau bwyta, yn ogystal ag effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a lles meddyliol cyffredinol.
Gan gydnabod yr angen i atal ceudodau deintyddol ymhlith pobl ifanc, daeth ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd, Sheffield, Leeds, Efrog a Dundee at ei gilydd i ymgymryd â phrosiect ymchwil, a elwir yn dreial BRIGHT.
Archwiliodd yr astudiaeth hon, a oedd yn cynnwys 4,680 o ddisgyblion ysgolion uwchradd o bob rhan o'r DU, a fyddai gwers ysgol a neges destun yn atgoffa am frwsio dannedd ddwywaith y dydd yn helpu i atal pydredd dannedd ymhlith pobl ifanc.
Crëwyd pecyn adnoddau o ganlyniad, i gefnogi athrawon ysgolion uwchradd i addysgu eu disgyblion Cyfnod Allweddol 3 am bwysigrwydd iechyd y geg a brwsio dannedd.
Yr Athro Nicola Innes, sy'n Bennaeth Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac sy'n cyd-arwain y treial BRIGHT, ac a gafodd y canlynol i ddweud:
Mae'r adnoddau, sydd wedi derbyn Marc Ansawdd gan Gymdeithas PSHE, eisoes wedi'u lawrlwytho nifer sylweddol o weithiau, a gobeithio y byddant yn gwella iechyd y geg pobl ifanc ledled y DU.
Mae ymchwil bellach fel rhan o'r BRIGHT Trial yn parhau gyda disgwyl i'r canfyddiadau gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.