Ewch i’r prif gynnwys

Tyfu economi Cymru

30 Tachwedd 2023

Main Building - Autumn

Bydd Prifysgol Caerdydd yn helpu i dyfu economi Cymru trwy chwarae rôl 'angori’ allweddol yn rhan o Ardal Fuddsoddi newydd De-ddwyrain Cymru.

Cyhoeddwyd y ddwy Ardal Buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru yn rhan o ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU.

Mae'r Ardaloedd Buddsoddi wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar glystyrau twf ledled y DU sy’n ddwys o ran gwybodaeth a chanddynt potensial mawr, gyda phob Ardal yn sbarduno twf yn o leiaf un sector allweddol yn y dyfodol o blith diwydiannau megis y diwydiannau gwyrdd, technoleg ddigidol, gwyddorau bywyd, y diwydiannau creadigol a gweithgynhyrchu uwch.

Bydd y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd presennol, y mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan sylweddol ynddo, yn ganolog i ddyhead Ardal De-ddwyrain Cymru newydd o greu mwy o swyddi, a swyddi tra medrus gwell, gan annog mewnfuddsoddi a thwf economaidd.

Yn dilyn ymweliad â'r Brifysgol gan David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: "Mae hwn yn fuddsoddiad arbennig i'r rhanbarth a fydd yn dod â budd economaidd a chymdeithasol sylweddol.

"Mae'n dangos yn glir y dalent a’r sgiliau sydd gennym yn y Brifysgol a ledled De-ddwyrain Cymru. Rydym yn falch iawn o chwarae rôl angori mor bwysig.  Er enghraifft, Caerdydd yw’r unig brifysgol yn y DU sy'n arwain ar ddwy wobr Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU sy’n cefnogi’r diwydiannau creadigol a lled-ddargludyddion cyfansawdd.

"Rydym yn gartref i arbenigedd a chyfleusterau sy'n arwain y byd gydag ymrwymiad dwfn i arloesedd ac effaith mewn rhanbarth sy'n ennill enw da am fod yn lleoliad technoleg llwyddiannus sy'n rhychwantu nifer fawr o sectorau.

"Mae gweithio mewn partneriaeth â busnesau, llywodraethau, rhanddeiliaid a phrifysgolion arall yn y rhanbarth yn hynod bwysig i'n cenhadaeth ddinesig fyd-eang.

"Rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r ardal buddsoddi newydd trwy gydweithio parhaus."

Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn ariannu Ardal Buddsoddi De-ddwyrain Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Y prif bethau a gafodd eu hystyried gan y ddwy Lywodraeth o ran dyfarnu Ardaloedd Buddsoddi oedd tystiolaeth glir o botensial economaidd, potensial ar gyfer arloesedd, sefydliadau angori gwybodaeth gref a chryfderau yn benodol i’r sectorau ac i’r clystyrau yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.