Ewch i’r prif gynnwys

Prynhawn gyda’r Siaradwr Rhyngwladol Clodfawr, Dr. Edna Adan Ismail

11 Medi 2023

Edna

Dewch i gwrdd â Chymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, bydwraig, a chyfarwyddwr ysbyty a siaradodd â myfyrwyr nyrsio, myfyrwyr bydwreigiaeth, a Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) ym mis Ebrill am ei gyrfa yn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd ac eirioli yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod ledled y byd.

Yn y sector gofal iechyd byd-eang, mae anghenion cryf o gwmpas iechyd y cyhoedd a lleihau niwed. Er mwyn iddynt allu cynnig y gofal gorau i bawb, rhaid i fyfyrwyr gofal iechyd ddeall yr heriau sy'n gysylltiedig â'u rolau, a sut y gallant gefnogi ystod amrywiol o gleifion mewn llu o leoliadau gofal iechyd, rhai â llwyth o adnoddau ac eraill heb fawr ddim. Drwy feithrin dealltwriaeth, byddant yn gallu gwella canlyniadau cleifion yn well, a dangos lefelau uwch o dosturi a dealltwriaeth o anghydraddoldebau cymdeithasol.

Gan alw o Somaliland, soniodd Dr. Edna Adan Ismail wrth fyfyrwyr Baglor Nyrsio ail flwyddyn Caerdydd sy'n astudio iechyd byd-eang am rai o'r heriau y gwnaeth eu goresgyn a'r rhwystrau y mae wedi helpu i'w chwalu drwy gydol ei gyrfa drawiadol. Tynnodd sylw hefyd at y modd y mae hi wedi helpu i hyfforddi, cynnal gwasanaethau, ac addysgu llawer o unigolion, nid yn unig yn Somaliland ond ym mhedwar ban byd, i fod yn ymarferwyr cryf, effeithiol, hyderus a thosturiol ar gyfer y dyfodol.

Pan enillodd Somaliland ei hannibyniaeth ym 1991, dim ond 18 o nyrsys a bydwragedd a 13 o feddygon oedd ar gael i drin gwlad sy'n fwy na'r DU. Ar ôl gorffen ei gyrfa hir gyda Sefydliad Iechyd y Byd, roedd Edna yn gwybod ei bod am ddychwelyd i Somaliland a helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yn ei mamwlad. Pan ddychwelodd ym 1997, rhoddwyd darn bach o dir iddi ar domen sbwriel, nid yn unig i’w droi’n ysbyty, ond hefyd i hyfforddi carfan gyntaf y wlad o nyrsys a bydwragedd. Dyna pryd yr hyfforddodd 42 o nyrsys Somaliland, ac ers hynny, mae wedi hyfforddi dros 1000 o nyrsys, technegwyr labordy, fferyllwyr a bydwragedd. Drwy ei gwaith arloesol i wella ansawdd gwasanaethau ysbyty ac addysgu gweithwyr gofal iechyd, mae wedi helpu i lywio dyfodol gofal iechyd, a gosod safon newydd o ofal mewn sawl ysbyty ar draws Somaliland.

Gyda galwadau i weddi i’w clywed yn y cefndir, parhaodd i siarad yn frwdfrydig â myfyrwyr Caerdydd am ei gwaith eirioli yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), yr arfer niweidiol a bwriadol o dynnu organau cenhedlu benywaidd allanol. Fel menyw sydd wedi bod trwy FGM ei hun ac sydd wedi gweld llawer o fenywod sydd wedi bod trwy FGM yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf a'r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny, taniwyd fflam yn Dr Edna i ymgyrchu. Ar ôl blynyddoedd o eirioli, mae sgyrsiau anoddach yn cael eu cynnal ynghylch y pwnc hwn. Mae Somaliland bellach hefyd wedi cyhoeddi fatwa, gorchymyn crefyddol, yn gwahardd FGM. Er gwaethaf hyn, mae bron i 75% o’r menywod sy’n cael eu gweld yn ystafelloedd esgor Somaliland wedi bod trwy FGM o hyd. Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU, ond eto mae achosion yn dal i gael eu darganfod. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn parhau i eirioli dros hawliau cleifion, a rhoi'r gofal y maent yn ei haeddu i fenywod a theuluoedd yr effeithir arnynt waeth beth fo'r amgylchiadau. Yn dilyn araith Dr. Edna Adan Ismail, mae'n bwysig cymryd amser a myfyrio ar sut y gall staff a myfyrwyr ddysgu o'i stori bwerus.

'Roedd hon yn ddarlith mor ddiddorol. Fe wnes i ei mwynhau yn fawr.'
Myfyriwr Nyrsio, Hydref 21

Hoffem ddiolch i'r Uwch Ddarlithydd, Diana De, yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd am drefnu'r cyfle dysgu rhyngbroffesiynol hwn ac i Dr. Edna Adnan Ismail unwaith eto am siarad â'n myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a SCPHN. Roedd yn bleser ei chroesawu i'n campws yn rhithwir, a gobeithiwn y gall ymweld â myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd wyneb yn wyneb yn y dyfodol.

Os hoffech ddarllen mwy am ei stori anhygoel, mae ei llyfr 'A Woman of Firsts' ar gael am ddim drwy wasanaeth llyfrgelloedd y Brifysgol.

Rhannu’r stori hon