Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn canfod bod angen diwygio rheolau'r Llys Gwarchod ar gyfer y cyfryngau, er mwyn atal aflwyddiant cyfiawnder a gwella tryloywder

30 April 2015

Glamorgan Building exterior

Mae grŵp o arbenigwyr cyfreithiol yn galw am ddiwygio'r rheolau sy'n llywodraethu'r ffordd mae'r Llys Gwarchod yn gweithio gyda'r cyfryngau yng Nghymru a Lloegr, i wella tryloywder ac i helpu i atal aflwyddiant cyfiawnder.

Caiff yr astudiaeth ei hariannu gan Sefydliad Nuffield, o dan arweiniad ymchwilwyr o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd. Mae'n argymell newidiadau i'r rheolau sy'n llywodraethu mynediad y cyfryngau at achosion y Llys Gwarchod, i gynyddu atebolrwydd ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Llys.

Mae'r Llys Gwarchod yn gwneud penderfyniadau am y gofal a'r driniaeth a gaiff pobl sydd â diffyg galluedd meddyliol oherwydd cyflyrau fel dementia, anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.

Oherwydd natur sensitif achosion y Llys Gwarchod, boed yn gymdeithasol ynteu'n wleidyddol, mae rheolau caeth yn rheoli mynediad y cyfryngau at yr achosion hyn, ac mae'n rhaid i newyddiadurwyr wneud ceisiadau costus i fynd i wrandawiadau.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod yr angen i weithredu rhai cyfyngiadau i warchod preifatrwydd y rheini sy'n ymwneud â'r achosion, mae'n galw am ddiwygio'r rheolaufel bod y cyfryngau'n gallu mynd i wrandawiadau pwysig yn rheolaidd – yr un fath â'r arfer sydd ar waith yn system y Llys Teulu.  

Mae'r astudiaeth yn deillio o astudiaeth bord gron lle daeth ymchwilwyr Caerdydd ynghyd â mwy nag 20 o gynrychiolwyr, gan gynnwys barnwyr, cyfreithwyr y Llys Gwarchod, cyfreithwyr y cyfryngau, newyddiadurwyr, gweision sifil ac ymchwilwyr eraill. Roedd gan bob un o'r rhai a gymerodd ran brofiad o weithio ar achosion lles y Llys Gwarchod.

Mae adroddiad yr astudiaeth yn cynnig y dylid gwella'r system ar gyfer rhoi gwybod i'r cyfryngau am achosion pwysig yn y Llys Gwarchod, fel bod mwy o eglurder cyfreithiol ynglŷn â phryd mae partïon a chynrychiolwyr cyfreithiol yn gallu rhoi gwybod yn gyfreithlon i'r cyfryngau am achos penodol.

Caiff achosion uchel eu proffil lle mae'r cyfryngau wedi chwarae rôl bwysig wrth hyrwyddo'r ddealltwriaeth ynghylch hawliau pobl eu hamlygu gan y gwaith ymchwil hefyd. Mae hyn yn cynnwys achos Stephen Neary. Fe wnaeth Bwrdeistref Hillingdon yn Llundain ei garcharu'n anghyfreithlon, ac arweiniodd hyn at wrthwynebiad y cyhoedd ar ôl i'w dad droi at y cyfryngau gyda'i frwydr gyhoeddus i ryddhau ei fab.  Arweiniodd yr achos at ymwybyddiaeth gynyddol o rôl y Llys Gwarchod wrth herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus sy'n ymwneud â gofal a thriniaeth pobl sydd â diffyg galluedd meddyliol.

Dywedodd Dr Lucy Series o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, cydawdur yr astudiaeth: "Nid oes amheuaeth bod angen cyfyngiadau ar y ffyrdd y rhoddir sylw i achosion y Llys Gwarchod yn y cyfryngau, i warchod preifatrwydd y rheini sy'n ymwneud â'r achosion. Ond nid yw'r rheolau cyfredol yn addas i bwrpas. Mae adroddiad heddiw'n ceisio mynd i'r afael â'r ffyrdd y gellir cynnal neu hyd yn oed gryfhau'r warchodaeth hon, gan alluogi trafodaethau mwy agored ar achosion sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd ar yr un pryd. 

"Yn amlwg, mae angen archwilio ymhellach sut gellir fframio'r gyfraith mewn ffordd sy'n gweddu orau i'r sefyllfaoedd amrywiol sy'n wynebu'r Llys Gwarchod. Ond fe wnaeth pob un o'r rhai a fu'n rhan o'r gwaith ymchwil fynegi cefnogaeth ar gyfer egwyddor 'cyfiawnder agored'. Roedd pawb yn ystyried ei bod yn bwysig i'r cyfryngau roi sylw i achosion y Llys Gwarchod, a chyhoeddi dyfarniadau, er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Llys Gwarchod, i atal aflwyddiant cyfiawnder ac i hybu hyder y cyhoedd yn y llys. Dywedwyd hefyd bod dyfarniadau agored a hygyrch yn bwysig fel bod ymgyfreithiwr drosto'i hun, y mae'n bosibl nad oes ganddo fynediad at adroddiadau cyfreithiol na chyngor cyfreithiol, yn gallu cael mynediad at gyfiawnder."

Mae'r adroddiad llawn: Transparency in the Court of Protection: Report on a Roundtable