Ewch i’r prif gynnwys

Athrawon Prifysgol Caerdydd yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

29 Ebrill 2015

Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa
Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa

Pedwar academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â'r gymdeithas fawreddog

Mae pedwar o Athrawon Prifysgol Caerdydd wedi'u hethol i'r gymdeithas mawr ei bri, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef anrhydedd uchel iawn ei pharch sy'n cydnabod rhagoriaeth academaidd.

Roedd yr Athro Terry Threadgold, yr Athro Henry Peredur Evans, yr Athro Anrhydeddus Gerald Holtham a'r Athro Valerie O'Donnell ymhlith 40 o Gymrodyr newydd i gael eu derbyn i'r Gymdeithas, gan gynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.

Mae'r Gymdeithas yn defnyddio arbenigedd y Gymrodoriaeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae'r gwyddorau a'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas yn hyn o beth drwy gymryd rhan yn ei phwyllgorau a'i gweithgorau, a thrwy ei chynrychioli'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cydnabuwyd yr Athro Threadgold, Athro Emerita Cyfathrebu ac Astudiaethau Diwylliannol, a chyn-Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, nid yn unig am ei llwyddiant unigol ond hefyd fel ysbrydoliaeth i fenywod sydd am ragori yn eu proffesiwn.

Cafodd yr Athro Henry Peredur Evans DSc FIMechE, Dirprwy Gyfarwyddwr ac Arweinydd Grŵp Ymchwil Triboleg Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, gydnabyddiaeth am ei waith yn ymgymryd ag ymholiadau gwyddonol o'r radd flaenaf ar lefel y DU.

Cafodd yr Athro Valerie O'Donnell FSB, Athro Biocemeg, a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd Prifysgol Caerdydd, ei chydnabod am ei gwaith ymholi gwyddonol hefyd.

Cydnabuwyd Mr Gerald Holtham, Rheolwr-bartner Cadwyn Capital ac Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae pum cam yn y broses ethol drylwyr er mwyn cael eich ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhaid i enwebeion fod â chofnod diamheuol o ragoriaeth a chyflawniad yn unrhyw un o'r disgyblaethau academaidd, neu fod wedi gwneud cyfraniad nodedig at fyd dysgu.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:                                                                 

"Mae'n bleser gennyf groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion eithriadol i'r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar sail teilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes academaidd ac ar draws bywyd cyhoeddus, yng Nghymru a thramor.

"Mae hefyd yn galonogol bod cyfran y Cymrodyr benywaidd a etholwyd (35%) yn uwch nag erioed. Mae mwy o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaethau, ac mae hyn i'w weld yn glir wrth iddynt gael eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas."

Rhannu’r stori hon