Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgolion Cymru yn mesur arloesedd o’r radd flaenaf

17 Hydref 2017

CCI

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â thair prifysgol arall yng Nghymru, ynghyd â busnesau allweddol yn y rhanbarth, i ystyried sefyllfa ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf yng Nghymru.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bydd yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd i Gymru yn archwilio i arloesedd dur, gweithgynhyrchu clyfar, arloesedd iechyd a thechnoleg amaethyddol, gan ganolbwyntio hefyd ar dechnolegau digidol ac ynni adnewyddadwy.

Bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn goruchwylio'r adolygiad, a fydd yn dilysu gwaith Caerdydd ar atebion i heriau byd-eang yr 21ain ganrif – gan gynnwys ymchwil Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac arloesedd wrth ddylunio a chynnig gofal iechyd.

"Bydd yr Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth yn cofnodi cryfderau ac ehangder ymchwil ac arloesedd ledled y wlad, gan dynnu sylw at ymchwil o'r radd flaenaf mewn meysydd allweddol sy'n gallu helpu i gynyddu mantais gystadleuol i DU mewn marchnadoedd byd-eang."

Yr Athro Colin Riordan Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Mae'r consortiwm yn cynnwys prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, ynghyd â chanolfannau rhagoriaeth ymchwil a chwmnïau mawr rhyngwladol. Mae wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Jo Johnson AS, Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd: "Mae'r Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesedd, a gynhaliwyd dair gwaith erbyn hyn, yn cynnig cipolwg gwerthfawr i'r gwaith arloesol sy'n digwydd ledled y DU a'r cyfraniadau yr ydym yn eu gwneud at ddatrys heriau byd eang ledled y byd..."

"Mae gwaith y rhanbarthau llwyddiannus sy'n cynnal eu Harchwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd y tro hwn yn cefnogi'r broses o ddatblygu a chynnal ein Strategaeth Diwydiant ac yn galluogi mannau lleol i wella ar sail eu cryfderau. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y DU yn aros yn gystadleuol yn y farchnad fyd-eang, a'i bod yn y sefyllfa orau posibl i barhau i arwain darganfyddiadau gwyddonol a'u cymryd i'r farchnad."

Jo Johnson AS Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd

Disgwylir y bydd trydedd rhan y broses Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn cael ei chynnal o fis Tachwedd 2017 i'r gwanwyn yn 2018. Cymerodd Prifysgol Caerdydd ran yn flaenorol yn yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd cyntaf yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr ochr yn ochr â'i phartneriaid yn GW4, prifysgolion Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg.