Ewch i’r prif gynnwys

Hawliau Ieithoedd Lleiafrifol: Deddfwriaeth a'r Gyfraith

28 Ebrill 2015

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost

Cynhaliwyd symposiwm ymchwil arbenigol, gan yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddydd Mawrth 28 Ebrill 2015.

Roedd y symposiwm, 'Rheoleiddio iaith, rheoleiddio hawliau?', sy'n deillio o brosiect ymchwil mawr wedi'i noddi gan ESRC, yn fforwm ar gyfer trafodaeth amlddisgyblaethol am bolisi ieithoedd lleiafrifol.  Yn y gorffennol, yng Nghymru yn arbennig, mae polisi iaith wedi canolbwyntio ar hyrwyddo ac eirioli, ond ni ellir tanbrisio'r angen am fframweithiau rheoleiddio effeithiol i weithredu, dehongli a defnyddio hawliau ieithyddol.  

Daeth grŵp rhyngwladol o leisiau academaidd blaenllaw ym maes polisi a hawliau iaith at ei gilydd yng Nghaerdydd, i rannu eu gwaith ymchwil a datblygu'r drafodaeth ynghylch y pwnc heriol hwn.   Rhoddodd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yr Athro Sioned Davies, groeso i bawb cyn clywed sylwadau agoriadol gan yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys Dr Jacqueline Mowbray, darlithydd ym Mhrifysgol Sydney a Chymrawd ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd, awdur 'Linguistic justice: International law and language policy'. Cyflwynodd academwyr o Brifysgol Caeredin, Prifysgol  Aberystwyth a Phrifysgol Nottingham eu gwaith ymchwil hwythau hefyd.

Dr Patrick Carlin a'r Athro Mac Giolla Chriost drefnodd y symposiwm.

Wrth drafod y symposiwm, dywedodd Dr Carlin: "Wrth fwrw ymlaen â'n gwaith ymchwil gwreiddiol, nod y symposiwm oedd ystyried rhyddid a hawliau iaith rhyngwladol a'r cyfreithiau a'r confensiynau i'w diogelu. Er mwyn datblygu hynny ymhellach,  fe wnaethom ystyried os all y gyfraith ddiogelu'r rhyddid i ddefnyddio iaith, a sut mae hawliau ieithyddol sydd wedi'u corffori mewn cyfraith ar lefel ryngwladol a chenedlaethol yn gysylltiedig â'i gilydd."

Ychwanegodd yr Athro Mac Giolla Chríost: "Mae'r holl siaradwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac mae'r trafodaethau wedi bod yn llawn gwybodaeth, yn ystyriol ac yn frwd heddiw. Mae'n bwysig bod polisi ieithoedd lleiafrifol yn ymateb i faterion a gwirioneddau cyfoes, gan sicrhau bod rheoleiddio a deddfwriaeth yn addas at y diben. Yn wir, mae gan waith ymchwil academaidd rôl hollbwysig o ran dylanwadu ar bolisi cyhoeddus."

Cyn y symposiwm, bu'r cyfranogwyr mewn cinio a gynhaliwyd gan Ddirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, David Melding AC.

Rhannu’r stori hon