Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Deithiol 'Stand Up Be Counted' Sky News

23 Ebrill 2015

SUBC roadshow van

Bydd barn myfyrwyr wrth wraidd darllediadau Sky News dros gyfnod yr etholiad

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd leisio eu barn ar y materion sydd o bwys iddynt i'r genedl, fel rhan o fenter Sky News i geisio rhoi llais i bobl ifanc wrth roi sylw i etholiad 2015.

Bydd stiwdio arbennig yn ymweld â'r Brifysgol heddiw fel rhan o ymgyrch 'Stand Up Be Counted' y darlledwr. Nod yr ymgyrch yw annog pobl ifanc i ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Bydd eitemau'n cael eu darlledu'n fyw drwy gydol y dydd, a bydd y stiwdio'n rhoi cyfle i fyfyrwyr recordio fideos sy'n eu galluogi i ddweud eu dweud o flaen cynulleidfa fawr ar draws pob un o lwyfannau Sky. Bydd y stiwdio hefyd yn ganolbwynt i'r sylw ehangach a roddir i'r Etholiad Cyffredinol gan Sky News.

Mae Caerdydd yn un o 11 o leoliadau yn y DU y bydd y stiwdio ryngweithiol yn ymweld â nhw fel rhan o ymgyrch sy'n canolbwyntio ar etholaethau allweddol yn y DU cyn yr etholiad.

Bydd bwth tynnu lluniau yn y stiwdio hefyd, lle gall pobl ifanc rannu eu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #SUBCTour. Bydd offer awtociw yno hefyd, fel bod myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar gyflwyno ar y teledu.

Dywedodd Elliott Howells, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Mae annog myfyrwyr i ddangos diddordeb yn yr Etholiad Cyffredinol wedi bod yn flaenoriaeth bersonol i mi a'r sefydliad eleni. Rwyf yn hynod falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, gyda'n hymgyrch i annog pleidleiswyr i gofrestru, a'r ddadl wleidyddol a gynhelir yr wythnos nesaf. Mae cael sioe deithiol Sky ar gampws y Brifysgol yn gyffrous iawn! Mae'n ddigwyddiad gwych i'w ychwanegu at ein catalog o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r Etholiad Cyffredinol ac mae'n sicr o fod yn boblogaidd ymysg y myfyrwyr. Mae'r rhagdybiaeth nad oes ots gan bobl ifanc am yr etholiad yn gelwydd noeth, ac mae'r ymgysylltiad gwleidyddol a welaf ymhlith ein myfyrwyr yn galonogol iawn."

Meddai John Ryley, Pennaeth Sky News: "Mae'r daith hon yn gyfle cyffrous iawn i bobl ifanc gymryd rhan yn Stand Up Be Counted ar lefel ranbarthol. Bydd yn dod â phrofiad unigryw at garreg drws pobl a allai deimlo eu bod wedi'u hymddieithrio oddi wrth y pleidiau gwleidyddol ac addewidion eu hymgyrchoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y daith yn helpu i roi llais i fwy o bobl ifanc cyn yr Etholiad Cyffredinol, a bydd ein holl ymdrechion yn mynd tuag at gryfhau'r llais hwnnw."

Bydd y stiwdio symudol gyferbyn ag Undeb y Myfyrwyr rhwng 10am a 5pm ddydd Gwener 24 Ebrill.

Rhannu’r stori hon