Ewch i’r prif gynnwys

Saith myfyriwr Ymchwilio’r Gorffennol yn gwireddu dyhead oes

3 Hydref 2017

The seven Exploring the Past pathway students pictured with Co-ordinator Dr Paul Webster (second from far right).
The seven Exploring the Past pathway students pictured with Co-ordinator Dr Paul Webster (second from far right).

Saith myfyriwr Ymchwilio’r Gorffennol yn gwireddu dyhead oes

Llwybr i radd i ddysgwyr sy’n oedolion

Saith myfyriwr Ymchwilio’r Gorffennol yn gwireddu dyhead oes

Mae saith dysgwr sy’n oedolion wedi gwireddu eu breuddwyd o gael addysg brifysgol ar ôl cwblhau llwybr addysg amgen gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Ymchwilio’r Gorffennol yn un o nifer o lwybrau i oedolion sy’n dychwelyd i addysg sydd am symud at astudio gradd.

Yn ddewis arall i Safon Uwch a chymwysterau mynediad i oedolion, caiff myfyrwyr eu haddysgu gan Is-adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol. Drwy ddarlithoedd a seminarau gyda’r nos ac ar y penwythnos caiff myfyrwyr brofiad o astudio gradd o lygad y ffynnon mewn amgylchedd addysg uwch bywiog.

Wedi goresgyn nifer o rwystrau sylweddol, mae’r saith dysgwr sy’n oedolion yn dechrau graddau yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol.

Dywedodd Sian Williams, un o’r saith myfyriwr: “Byddwn yn argymell y cyrsiau’n fawr. A minnau’n fyfyriwr aeddfed sydd heb fod mewn addysg ers dros 30 mlynedd, nid oeddwn wedi paratoi ac nac â’r hyder na’r sgiliau i fynd yn syth i astudio gradd.  Ar ôl cwblhau’r cyrsiau Ymchwilio’r Gorffennol rwyf eisoes wedi magu hyder.  Heblaw am y wybodaeth a ddysgais mae fy hunan-hyder wedi gwella’n sylweddol.”

“Mae dilyn y cyrsiau hyn wedi newid fy mywyd. Pe byddech chi wedi dweud wrthyf dair blynedd yn ôl y byddwn yn astudio gradd, byddwn wedi chwerthin arnoch!  Mae’r staff wedi bod yn wych - mor gefnogol.”

Ychwanegodd Jake Williams: “Mae’r cwrs yn agor eich meddwl i leoedd, amseroedd, pobl a chredoau newydd.  Mae’n llawn gwybodaeth ond hefyd yn anffurfiol. Roeddwn i mor nerfus am ddechrau gan fy mod i’n ddyslecsig ac nid oedd gennyf y sgiliau yr oedd eu hangen arnaf i ddechrau gradd, ond rhoddodd y cyrsiau hyn bopeth yr oedd ei angen arnaf i wneud hynny!  Pan gefais addysg yn y 70au roedd pawb yn dweud mai fi oedd yr ‘un twp’.  Dwi wedi newid mewn llawer o ffyrdd, ac yn edrych ar bethau’n wahanol ac yn cwestiynu pethau llawer mwy.”

Ers ei sefydlu yn 2010, mae’r Llwybr Ymchwilio’r Gorffennol wedi gweld 35 o ddysgwyr sy’n oedolion yn symud i addysg uwch. Mae 11 o’r rhain eisoes wedi ennill gradd a bydd mwy yn eu dilyn dros y blynyddoedd nesaf. Mae pum cyn-fyfyriwr Llwybrau wedi symud at radd ôl-raddedig ers cwblhau eu graddau.

Dywedodd Dr Paul Webster, cydlynydd Llwybr Ymchwilio’r Gorffennol:  “Rydym mor falch o’r saith myfyriwr a symudodd i ennill gradd â ni eleni, maen nhw oll yn ysbrydoledig! Mae eu straeon yn dangos sut y gall cymryd cam bach i ddychwelyd at ddysgu wneud newid cadarnhaol enfawr i fywydau. Dymunwn bob hwyl iddynt â’u hastudiaethau a byddwn yma i ddal i’w cefnogi drwy eu graddau.”

Bydd cwrs llwybr nesaf Ymchwilio’r Gorffennol yn dechrau ar 19 Hydref.  I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Dr Paul Webster yn websterp@caerdydd.ac.uk

Mae Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn cynnig 10 llwybr i is-raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd mewn amryw feysydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rhannu’r stori hon