Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Cymdeithas Ymchwil Geneuol a Deintyddol Prydain 2017

18 Medi 2017

Yr Athro Mike Lewis yn cyflwyno darlith Graham Embery.
Yr Athro Mike Lewis yn cyflwyno darlith Graham Embery.

Mae academyddion a myfyrwyr ein Hysgol Deintyddiaeth wedi bod yn brysur yng Nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil Geneuol a Deintyddol Prydain (BSODR) a gynhaliwyd eleni yn y Peninsula School of Dentistry ym Mhrifysgol Plymouth.

Daw dros 200 o ymchwilwyr deintyddol at ei gilydd yn y digwyddiad hwn am ddau ddiwrnod o ddarlithoedd, cyflwyniadau llafar a phosteri, symposia a chyfarfodydd o grwpiau gwyddonol diddordeb arbennig i amlygu'r ymchwil arloesol a dyfeisgar a geir yn y maes.

Cymerodd ymchwilwyr yr Ysgol Deintyddiaeth ran mewn nifer o gyflwyniadau drwy gydol y digwyddiad. Ymhlith y cyflwyniadau eleni cafwyd cymeradwyaeth i'r myfyriwr PhD Joshua Twigg yng Ngwobr Poster Unilever ac enillodd y myfyriwr PhD Daniel Morse wobr Senior Colgate am ei gyflwyniad ‘Contribution of oral bacteria to Candida virulence and denture stomatitis’.  Mae'r llwyddiannau hyn yn cydnabod yr ymchwil blaenllaw mae'r Ysgol yn rhan ohono ac yn dangos y rhwydwaith cymorth rhagorol mae myfyrwyr ymchwil yn ei dderbyn yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

David Morse and Joshua Twigg holding their certificates and smiling
PhD student Joshua Twigg, winner of the Unilever Poster prize and PhD student Daniel Morse, winner of the Senior Colgate prize.

Cyflwynodd yr Athro Mike Lewis, Athro Meddygaeth y Geg yn yr Ysgol Deintyddiaeth a chyn-lywydd diweddaraf BSODR, brif ddarlith goffa Graham Embery.  Teitl ei ddarlith oedd ‘My war against the oral microbiome’ – ac roedd yn disgrifio ei ymchwil clinigol a labordy yn targedu heintiau bacteriol, feirysol a chandidaidd ar feinwe orowynebol dros gyfnod o 35 mlynedd.

Dywedodd yr Athro Alastair Sloan, Pennaeth yr Ysgol; "Roeddwn i'n falch i weld llawer o fy nghydweithwyr yng nghyfarfod y BSODR a nodwyd ansawdd ein hymchwil gan lawer o bobl yn y cyfarfod.

Roeddwn i wrth fy modd fod Daniel Morse wedi ennill Gwobr Senior Colgate am ei gyflwyniad ymchwil. Mae hwn yn gyflawniad gwych, ac yn haeddiannol iawn. Rhaid llongyfarch Joshua Twigg hefyd am gael Cymeradwyaeth Uchel yng Ngwobr Poster Unilever. Mae llwyddiant y ddau fyfyriwr PhD rhagorol hyn yn glod mawr i'w goruchwyliwr, eu grŵp ymchwil ac i'r Ysgol ac rydym yn falch iawn o'u llwyddiant."

The quality of our research was noted by many people at the meeting.

Yr Athro Alastair J Sloan Pennaeth yr Ysgol

Dr Anwen Cope, deintydd cymwysedig a Hyfforddai Arbenigol mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fu'n traddodi darlith TC White - ‘Understanding antibiotic prescribing in primary dental care in the UK’, pwnc sydd wedi dod i'r amlwg mewn blynyddoedd diweddar ar ôl i ffigurau swyddogol ddangos bod deintyddion yng Nghymru a Lloegr yn rhagnodi tua 3.8 cwrs o wrthfiotigau bob blwyddyn.

Ychwanegodd Dr Cope: "Roedd yn anrhydedd mawr i gael fy newis gan Goleg Brenhinol  Meddygon a Llawfeddygon Glasgow i draddodi Darlith TC White yng Nghyfarfod Blynyddol y BSODR. Rwyf i'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno ein gwaith ar ragnodi gwrthfiotigau mewn deintyddiaeth mewn cyfarfod mor amrywiol a bywiog."

I am very grateful to have had the opportunity to present our work on antibiotic prescribing in dentistry at such a diverse and vibrant meeting.

Dr Anwen Cope Specialty Trainee in Dental Public Health at Cardiff and Vale University Health Board in Wales