Ewch i’r prif gynnwys

Gosod troseddau cyfeillio ar y llwyfan

11 Medi 2017

Actor James Ashton from the Quiet Hands company
Actor James Ashton from the Quiet Hands company

Awdur creadigol a llwyddiannus yn ymdrin â troseddu dinistriol a dirgel sy'n effeithio ar bobl fregus yn ei ddrama diweddaraf

Mae Quiet Hands yw archwilio’n ddeifiol i’r cynnydd brawychus mewn troseddau cyfeillio – ffurf llechwraidd, ysglyfaethus o droseddau casineb a gyflawnir yn erbyn y pobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Mae'r awdur/academydd Tim Rhys yn dychwelyd i’r theatr i ganolbwyntio ar y byd dirgel hwn.

Gwelir bod y cymeriad ifanc awtistig Carl (Josh Manfield)    yn ceisio ailadeiladu cysylltiadau gyda’i frawd coll yn Touch Blue Touch Yellow.

Gan fod troseddau cyfeillio bellach ar raddfa frawychus yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae’r ddrama yn rhoi’r math hwn o drosedd na gydnabyddir llawer o dan y chwyddwydr.

Mae oedolion ifanc ar y sbectrwm awtistig yn arbennig o fregus, gan eu bod yn aml wedi'u hynysu yn gymdeithasol, ac mae diffyg rhwydweithiau cymdeithasol ganddynt i’w diogelu fel sydd gan y rhan fwyaf ohonom. Gellir twyllo’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain i gyfeillio ac i ymddiried yn eu "ffrindiau" newydd ac yna’u bwlio a dwyn oddi wrthynt yn systematig. Weithiau mae’r cam-drin hwn wedi arwain at drais erchyll, hyd yn oed yn angheuol, heb i neb sylwi’n aml. Mae dioddefwyr yn aml yn amharod neu'n methu dianc neu ddweud wrth unrhyw un beth sy'n digwydd iddynt.

Quiet Hands yw’r gwaith diweddaraf gan yr awdur sy’n byw yng Nghaerdydd a Theatr Winterlight.

Cafodd y cydweithrediad blaenorol Touch Blue Touch Yellow glod gan fyd y celfyddydau, theatr ac anabledd. Disgrifiwyd y ddrama drawiadol fel "darn godidog o theatr" (Celfyddydau Anabledd Cymru), ac yn 'Theatr ag effaith ddi-oed, ddeifiol' (New Welsh Review).

Cefnogwyd datblygiad y ddrama gan Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru.

Gwelwyd Quiet Hands am y tro cyntaf yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter ar 11 Medi.

Rhannu’r stori hon