Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonydd o Gaerdydd yn cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau’r Gymdeithas Biocemegol

31 Mawrth 2015

Portrait image of Prof John Harwood

Yr Athro John Harwood yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid

Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau'r Gymdeithas Biocemegol eleni.

Dyfarnwyd y Wobr Darlith Morton, sy'n cydnabod cyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid, i'r Athro John Harwood o Ysgol y Biowyddorau.

Mae'n un o 11 o wyddonwyr nodedig ledled y byd sydd wedi derbyn acolâdau am eu gwaith. 

Rhoddir y gwobrau i gydnabod rhagoriaeth ymchwil ac amlygu'r effaith fawr y mae ymchwil gwyddonydd wedi'i chael ar y gymuned wyddonol a chymdeithas ehangach. Rhoddir rhai gwobrau hefyd am waith eithriadol gan ymchwilwyr ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd.

Cyflwynir Darlith Morton gan John Harwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau. Mae John Harwood wedi cael gyrfa hir ym mhen blaen ymchwil i fiocemeg lipid. Mae ei gyfraniadau gwreiddiol at fiocemeg lipid yn niferus ac amrywiol; mae wedi gweithio ym maes biocemeg lipid anifeiliaid a phlanhigion, ac wedi gwneud cyfraniadau pwysig at y ddau. Mae ei ymchwil wedi ymdrin â phob lefel o fiocemeg lipid, o enynnau i gynhyrchion meddygol.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Harwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau:

"Mae'n anrhydedd derbyn Gwobr Darlith Morton sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'r holl waith a gyflawnwyd gan y gwyddonwyr ifanc da yn fy labordy dros y blynyddoedd.

"Mae'n nodedig hefyd bod goruchwyliwr fy Noethuriaeth (J.N. Hawthorne) a chydawdur fy mhapur cyntaf (R.H. Michell) wedi derbyn y wobr yn y gorffennol hefyd. Cefais hyfforddiant da iawn!"

Sefydlwyd Darlith Morton ym 1978 i goffáu'r diweddar R.A. Morton. Mae enillwyr y wobr wedi dangos eu bod nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid.

Mae derbynwyr Gwobrau'r Gymdeithas Biocemegol, heddiw ac yn y gorffennol, wedi gwneud darganfyddiadau a datblygiadau arloesol mewn meysydd mor amrywiol ag ymchwil canser, biocemeg lipid, bioegnïeg, bioleg RNA, sbectrometreg màs, celloedd ewcaryotig a genynnau bacteria. Maent yn cynnwys nifer o enillwyr y Wobr Nobel.

Dywedodd yr Athro Anne Dell, Cadeirydd y Pwyllgor Gwobrau:

"Mae Gwobrau'r Gymdeithas Biocemegol yn cydnabod gwyddonwyr ar bob cam o'u gyrfa, ar draws sbectrwm llawn y biowyddorau molecwlaidd.

"Bydd darlithoedd y Gwobrau yn 2016 yn arddangos y cyfraniadau eithriadol y mae'r enillwyr wedi'u gwneud."

 
Cynhelir yr holl Wobrau a darlithyddiaethau medal yn 2016, a chyhoeddir yr holl ddarlithoedd yn Biochemical Society Transactions.

font��Ry?]'

Rhannu’r stori hon