Ewch i’r prif gynnwys

Y Farwnes Randerson yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb mewn araith yn y Brifysgol

27 Mawrth 2015

Baroness Randerson

Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau trwy gydol mis Mawrth i hyrwyddo a dathlu cydraddoldeb cyfle, defnyddiodd y Farwnes Randerson araith yn y Brifysgol i amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer cyflwyno cydraddoldeb i fenywod yn yr economi.

 I nodi 45 mlynedd ers cyflwyno'r Ddeddf Cyflog Cyfartal, amlygodd yr araith gyfres o fesurau arfaethedig i gynyddu cyfranogiad menywod yn yr economi, gyda'r bwriad o sicrhau bod miliwm o fenywod ychwanegol yn gweithio erbyn 2020. 

Dywedodd barwnes Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y Farwnes Randerson, wrth y gynulleidfa, trwy  ryddhau grym gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd llawn menywod, gall yr economi a'r gymdeithas gyfan, elwa: "Credaf yn frwd yn y cysylltiad rhwng economi cryfach a chymdeithas decach. Credaf mewn pwysigrwydd sylfaenol grymuso menywod yn economaidd."

Yn ystod yr araith, galwodd hefyd am "newid cymdeithasol" ac amlygodd waith i atal trais yn erbyn menywod a merched. Arweinydd y digwyddiad oedd y Dirprwy Is-ganghellor Elizabeth Treasure, sy'n arwain mesurau'r Brifysgol i sicrhau cydraddoldeb, gan gynnwys y digwyddiadau diweddar i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dywedodd yr Athro Treasure: "Mae gan y Brifysgol hanes cryf o hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ar gyfer ei myfyrwyr a'i staff, ac academydd o Gaerdydd, Millicent McKenzie, oedd yr Athro benywaidd cyntaf yn y DU ym 1904.

"Mae'r Brifysgol yn parhau i dderbyn cydnabyddiaeth am ei hymdrechion o ran hyrwyddo cyfleoedd gyrfaol i fenywod, o fentrau i gynyddu nifer y gwyddonwyr benywaidd, i bennu'r Brifysgol yn ddeiliad siarter efydd Athena SWANN. Yn yr ysbryd hwn y croesawn y Farwnes Randerson i'r Brifysgol, i siarad am y pwnc pwysig hwn."