Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun gofal iechyd parhaus yn ennill miloedd yn ôl ar ran cleientiaid cartrefi gofal

16 Awst 2017

A carer in an old people's home

Mae cynllun unigryw sy'n ymdrin â chost gofal iechyd parhaus yn y DU wedi llwyddo i ennill dros £60k yn ôl ar ran ei gleientiaid ers dechrau 2017.

Mae cynllun pro bono Gofal Iechyd Parhaus y GIG sydd wedi'i leoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ymdrin â phroblem ledled y wlad sy'n effeithio ar rai sy'n agored i niwed yn y gymuned fel y rheini sydd mewn cartrefi nyrsio neu bobl sy'n dioddef o glefyd Alzheimer. Yn yr achosion hyn, dadleuir mai’r GIG sy’n gyfrifol am ofal yr unigolyn a dylid ei ariannu'n llawn, ond mewn gwirionedd nid yw hynny'n digwydd, sy’n gadael yr unigolion yn gyfrifol am eu ffioedd gofal eu hunain.

Mae myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn a myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio ar achosion 'go iawn', yn helpu teuluoedd i adennill ffioedd cartrefi gofal y gellid dadlau y dylai’r GIG fod wedi talu amdanynt. Mae’r myfyrwyr yn gwneud y gwaith hwn yn allgyrsiol, yn ychwanegol at eu hastudiaethau academaidd a chânt eu goruchwylio a’u cynorthwyo gan gyfreithwyr a pharagyfreithwyr o Gofal Nyrsio Hugh James, un o’r arbenigwyr cenedlaethol blaenllaw wrth adfer ffioedd cartrefi gofal a dalwyd ar gam.

Ers mis Ionawr 2017, mae’r cynllun pro bono wedi derbyn cyfanswm o £69,478.32 ar ran chwe chleient, sy'n cynrychioli ffioedd cartrefi gofal a dalwyd ar gam. Y swm unigol mwyaf a adenillwyd i un cleient yn ystod y cyfnod hwn oedd £31,414.03, sy'n dod â’r cyfanswm a adenillwyd gan y cynllun dros y deng mlynedd diwethaf i dros £150,000.

Yr Ysgol yw’r unig ysgol y gyfraith yn y DU i redeg cynllun pro bono i arbenigwr yn y maes hwn.

Meddai Hannah Marchant, Darlithydd y Gyfraith a chydgysylltydd y cynllun pro bono: "Mae cynllun pro bono Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr weithio ar ffeiliau cleientiaid go iawn o dan oruchwyliaeth arbenigwyr o Gofal Nyrsio Hugh James. Mae’r arian a adenillir yn dyst i waith caled y myfyrwyr sy'n ymwneud â’r cynllun a'u goruchwylwyr. Rydym wrth ein boddau gyda’r llwyddiant a gawsom ar ran ein cleientiaid."

Meddai Lisa Morgan, Partner yn Gofal Nyrsio Hugh James: 'Rydym yn falch o'n perthynas hir gydag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gan fod y cynllun Pro Bono yn rhoi sgiliau ymarferol i gyfreithwyr yfory i'w defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae hwn yn gyflawniad gwych gan y cynllun, sy'n cynnig cefnogaeth i'r gymuned ehangach drwy ddarparu cyngor cyfreithiol i'r rheini na fyddent fel arfer yn gallu cael gafael ar wasanaethau o'r fath."

Rhannu’r stori hon