Ewch i’r prif gynnwys

Arloeswyr lleol yn cael arian i ddatblygu syniadau

10 Awst 2017

Lightbulbs on a chalkboard

Mae wyth sefydliad yng Nghymru wedi cael arian gan gronfa £5m fydd yn hybu arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus – gan wella gwasanaethau ac arbed arian.

Caiff rhaglen Arloesi er mwyn Arbed ei rheoli gan Y Lab – menter gydweithredol rhwng sefydliad arloesedd, Nesta, a Phrifysgol Caerdydd – a'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'n cefnogi sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i brototeipio, treialu, ac ehangu prosiectau newydd i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys garddio cymunedol i gefnogi iechyd a lles, neu wasanaethau pontio i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Rhoddir cefnogaeth drwy gymysgedd o gyllid grant, benthyciadau ad-daladwy, a chymorth anariannol fel cefnogaeth busnes neu fentora.

Ymhlith yr arloeswyr mae:

  • Grow Cardiff, £11,340 - Mae Grow Cardiff yn helpu pobl leol ar draws y ddinas i gymryd rhan mewn garddio cymunedol i gefnogi eu hiechyd a lles. Gan weithio gydag 11 o feddygfeydd yn Ne-ddwyrain Caerdydd, eu nod yw mesur a datblygu'r syniad hwn; helpu pobl gydag amrywiaeth o gyflyrau i ailgysylltu â phobl, ymarfer corff ysgafn, a'u bwyd drwy dyfu bwyd.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, £15,000 - mae'r grŵp o gyrff iechyd ac awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn cynnig cludiant am ddim i bobl ag anghenion mynediad cymunedol neu ofal cymdeithasol. Drwy gyfuno data o bob sefydliad – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir Gwynedd, a Chyngor Sir Wrecsam – y nod yw mireinio'r modd o ddarparu gwasanaethau cludiant i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, a datblygu gwasanaeth sy'n gynaliadwy yn y tymor hir. Mae wedi'i gefnogi gan ODI Cardiff.
  • Innovate Trust, £15,000 - Mae Innovate Trust yn cynnig gwasanaeth byw â chymorth i 275 o bobl gydag anableddau dysgu i'w galluogi i fyw yn y gymuned. Mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg. Byddant yn archwilio i sut gallai Cynorthwywyr Personol Deallus (fel Amazon Echo neu Google Home) gefnogi pobl ag anableddau sy'n defnyddio eu gwasanaethau, a lleihau'r angen i staff fod yn bresennol drwy'r amser yn eu cartrefi, gan leihau costau, felly.
  • FABRIC, £13,574 - Mae'r fenter gymdeithasol hon a leolir yn Abertawe yn cynnig llety a chefnogaeth i bobl ifanc 16 a 17 oed sy'n derbyn gofal neu sy'n gafael gofal. Er mwyn helpu oedolion ifanc 18 oed i bontio'n ddiogel o'u gwasanaeth gofal, bydd y cynllun peilot yn archwilio sut y bydd gwasanaeth llety lled-annibynnol yn lleihau'r risg o ynysu cymdeithasol, gan wella canlyniadau unigol a nifer y bobl sy'n llifo drwy system yr awdurdod lleol.
  • Cyngor Gwynedd, £15,000 - Pentref arfordirol yw Fairbourne sy'n destun cynllun rheoli traethlin ar hyn o bryd oherwydd y risg llifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd. I gefnogi'r gymuned arfordirol fach, bydd Cwmni Buddiannau Cymunedol yn cael ei sefydlu i archwilio i sut y gallai'r rhai sydd am adael y pentref gael cefnogaeth i wneud hynny.  Bydd y prosiect yn ystyried a ellir defnyddio'r stoc tai fel rhan o ddarpariaeth statudol yr awdurdod lleol. Bydd y prosiect yn gost-niwtral ac yn cynyddu'r stoc tai sydd ar gael i denantiaid cymdeithasol.

Dywedodd Rob Ashelford, Uwch Reolwr Rhaglenni Arloesedd yn sefydliad arloesedd Nesta: “Mae gweision cyhoeddus yn wynebu galw uwch a diffyg adnoddau, felly mae'n rhaid iddynt ail-ddychmygu sut y gellir cynnig y gwasanaethau sydd eu hangen ar ddinasyddion. Mae posibilrwydd y gallai'r prosiectau a gyhoeddwyd heddiw, sy'n gynnwys ymuno ag elusennau lleol neu atal ymyriadau diangen a helpu awdurdodau rhanbarthol i weithredu'n gynt, gael eu cyflwyno ledled y DU. Rwy'n gyffrous iawn nid yn unig am eu syniadau, ond hefyd am y cyfleoedd amlwg i sicrhau mwy o gydweithio rhwng cyrff yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.”

Dywedodd un o Weinidogion Cymru, Mark Drakeford: “Ar adeg lle mae cyllidebau'n lleihau, mae'n rhaid i bob un ohonom feddwl yn wahanol os ydym am gynnal lefel y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar bobl. Bydd yr wyth prosiect hyn yn cael cefnogaeth drwy ein cronfa Arloesi er mwyn Arbed, i gydweithio â sefydliadau eraill a chyflwyno cynlluniau peilot arloesol. Yn ogystal ag arbed arian y gellir ei ail-fuddsoddi, byddant yn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.”

Caiff tystiolaeth ymchwil ei chasglu ar gyfer pob un o'r prosiectau wrth iddynt fynd rhagddynt dros y chwe mis nesaf, ac yn cael ei rhannu'n rheolaidd ar wefan Nesta.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.