Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol wedi ei henwi fel partner enwebedig Digwyddiad Hanner Marathon y Byd

26 Mawrth 2015

The Vice-Chancellor Professor Colin Riordan and Matt Newman CEO of the IAAF/Cardiff University World Half Marathon Championships Organising Committee

Mae'r Brifysgol wedi cael ei chyhoeddi fel partner enwebedig ar gyfer digwyddiad athletau pwysig a fydd yn denu llawer o redwyr gorau'r byd i Gaerdydd.

Mae Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yr IAAF/Prifysgol Caerdydd yn digwydd yn y ddinas ar ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth, 2016.                                                                                                             

Hwn fydd yr hanner marathon mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru a'r digwyddiad athletau mwyaf arwyddocaol a gynhaliwyd yn y wlad ers Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad 1958.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn falch iawn i fod yn bartner enwebedig ar gyfer y digwyddiad athletau o fri sydd ag apêl ryngwladol mor eang.

"Mae'n gyfle i arddangos dinas Caerdydd a'r Brifysgol wrth i ni groesawu athletwyr elitaidd, 25,000 o redwyr yn y ras dorfol, nifer fawr o wylwyr a chynulleidfa deledu ryngwladol fawr.

"Bydd ein cyfraniad yn mynd y tu hwnt i ddarparu nawdd. Mae iechyd y cyhoedd yn rhan bwysig o'n gwaith. Rydym nid yn unig yn ymgymryd ag ymchwil sy'n arwain y byd yn y maes hwn, ond rydym hefyd yn hyfforddi'r bobl a fydd yn dod yn ofalwyr iechyd proffesiynol y dyfodol.

"Mae hwn yn llwyfan gwych i ddwyn ynghyd bobl o'r sector iechyd ac o'n cymunedau lleol i hyrwyddo manteision ffordd o fyw sy'n iach ac yn heini.

"Bydd cyfleoedd i fyfyrwyr a staff o bob rhan o'r Brifysgol i gymryd rhan."

Bydd y digwyddiad mawreddog Cyfres Athletau'r Byd yn dod â mwy na 300 o'r athletwyr gorau i gwrs gwastad a chyflym Caerdydd, yn ogystal â chynnal ras cyfranogiad torfol ar gyfer hyd at 25,000 o redwyr amaturaidd o bob cwr o'r byd.
 
Mae ceisiadau ar gyfer y ras cyfranogiad torfol wedi agor ac mae disgwyl iddynt werthu allan yn gyflym. Gall rhedwyr gofrestru drwy ymweld â gwefan y digwyddiad.

Wrth siarad am y bartneriaeth, dywedodd Matt Newman Prif Swyddog Gweithredol Pwyllgor Trefnu Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd yr IAAF/Prifysgol Caerdydd "Gydag un flwyddyn i fynd rydym ein dau yn falch iawn ac yn gyffrous bod Prifysgol Caerdydd wedi dod yn bartner enwebedig i'r digwyddiad chwaraeon byd-eang hwn.

"Rydym yn cydnabod y cyfraniadau unigol y mae ein cyrff yn eu gwneud i greu poblogaeth fwy gweithgar ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r weledigaeth a rennir.

"'Gyda sylw ar y teledu i'w ddisgwyl mewn mwy na 100 o wledydd, bydd Caerdydd 2016 hefyd yn gwella proffil rhyngwladol Prifysgol Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i wneud y gorau o'r cyfle unwaith mewn oes hwn."

Rhannu’r stori hon