Ewch i’r prif gynnwys

Y gymuned yn uno â’r Brifysgol i glirio sbwriel o’r strydoedd

5 Mawrth 2015

Staff and students from Cardiff University with members of the local community.

Mae staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi uno â phreswylwyr i glirio sbwriel o strydoedd Grangetown.

Mae'r gwaith clirio yn rhan o brosiect ymgysylltu Porth Cymunedol, sy'n cynorthwyo pobl Grangetown i drawsffurfio eu cymdogaeth.

Fe wnaeth casglwyr sbwriel, gyda help Cadwch Gymru'n Daclus, ddechrau ar eu gwaith ddydd Mercher, a chasglwyd mwy na 30 bag o sbwriel.

Dywedodd arweinydd y prosiect Porth Cymunedol, Mhairi McVicar, o Ysgol Bensaernïaeth Cymru, "Rydym wedi gweld mai sbwriel yw un o'r problemau sy'n cael ei godi dro ar ôl tro yn Grangetown, ac roeddem ni eisiau gwneud rhywbeth ymarferol i helpu.

"Roedd y digwyddiad casglu sbwriel yn llwyddiant mawr, gyda phreswylwyr, a staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth."

Dywedodd Dave King, preswyliwr, "Unwaith eto, mae ymgysylltiad ac ymroddiad y gymuned leol i fod yn rhan o wella ble maen nhw'n byw, wedi creu argraff fawr arnaf.

"Diolch yn fawr iawn i Brifysgol Caerdydd, preswylwyr Grangetown a Chymdeithas Ieuenctid Ahmadiyya Muslim Caerdydd."

Dywedodd Siqi Shu a Catherine Matheson, myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, "Roedd casglu sbwriel yn ffordd wych i wneud ffrindiau newydd a dod i adnabod y gymuned leol. Mae gennym ni barch o'rnewydd at gasglwyr sbwriel!"

Trefnwyd y digwyddiad casglu sbwriel mewn ymateb i ymgyrch dan arweiniad preswylwyr, sef #KeepGrangetownTidy.

The Community Gateway litter pick team on the banks of the Taff

Mae Porth Cymunedol yn un o bump o brosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel rhaglen Gweddnewid Cymunedau'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt, mewn meysydd fel iechyd, addysg a lles.

Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo rhanbarth dinas Caerdydd, cysylltu cymunedau trwy wefannau hyper-leol, ffurfio modelau ymgysylltu cymunedol a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.

Mae Porth Cymunedol yn chwilio am syniadau ar gyfer prosiect neu bartneriaeth yn Grangetown. Cysylltwch â communitygateway@caerdydd.ac.uk neu ysgrifennwch at Porth Gymunedol, t/l Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Adeilad Bute, Rhodfa Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NB.

Rhannu’r stori hon