Ewch i’r prif gynnwys

Marchnad Byd Grangetown

19 Gorffennaf 2017

Grangetown_World_Market_Logo

Gwahoddir siopwyr i strydoedd bywiog Grangetown ar gyfer ar gyfer marchnad stryd gyntaf y gymuned, a drefnwyd gan brosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Gweithredu Cymunedol Grangetown.

Cynhelir Marchnad Byd Grangetown, syniad a ddatblygwyd mewn fforwm busnes lleol, ar Stryd Lucknow ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf, a'i nod yw tynnu sylw at yr holl bethau sydd gan yr ardal i'w cynnig, gan gynnwys bwyd, dillad, crefftau a cherddoriaeth.

Mae'r farchnad yn rhan o brosiect ehangach Caru Grangetown, Siopa Grangetown, sy'n hyrwyddo busnesau annibynnol lleol, gan gynnwys siopau traddodiadol y stryd fawr yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio o gartref neu ar-lein.

“…Mae mwy na 15 o stondinau eisoes wedi eu cadarnhau, felly bydd hwn yn ddigwyddiad cymunedol gwych ac yn gyfle i fusnesau lleol, gan gynnwys busnesau newydd i groesawu pobl i ardal siopa Grangetown.”

Ymhlith y stondinau a gadarnhawyd mae cynhyrchwyr bwyd a diod lleol, masnachwyr gwaith celf a chrefftau, a phobl sy'n gwerthu cynhyrchion ffasiwn a harddwch.

Y Brand Mwyaf yn y Byd Sydd Wedi'i Ysbrydoli Gan Arabeg

One Unity Clothing

Dywedodd Bilal Anjum, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd fydd yn gwerthu ei frand One Unity Clothing yn y farchnad: “Mae fy nodau'n debyg i frandiau newydd eraill – bod mor fawr â phosibl o ran gwerthiannau ac amlygrwydd.

“Mae Marchnad Byd Grangetown yn gam pwysig at gyrraedd y nod hwn. Fodd bynnag, mewn tair blynedd neu fwy rydw i am fod y brand mwyaf yn y byd sydd wedi'i ysbrydoli gan Arabeg. Rydw i hefyd am gael effaith ar brosiectau elusennol a chefnogi cymunedau lleol hefyd.”

Vibe Attire Logo

Bydd gan Vibe Attire, cwmni Khalif, aelod o Fforwm Ieuenctid Grangetown sy'n 16 oed, stondin yn y farchnad hefyd. Dywedodd Khalif: “Rydyn ni'n grŵp ifanc a bywiog sy'n canolbwyntio ar gynnig safon uchel i bobl drwy ein dillad. Ein nod yw creu dillad chwyldroadol y bydd llawer o bobl yn teimlo cysylltiad â nhw ac yn eu mwynhau.

“Mae Marchnad Byd Grangetown yn gyfle gwych i arddangos ein brand i'r gymuned, a gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r profiad.”

Cafodd Marchnad Byd Grangetown ei chynllunio gan Dîm Menter y Brifysgol ac israddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, gyda chyllid gan brosiect Cyfnewidfa Dinas-Ranbarth a chefnogaeth gan Gyngor Caerdydd a Hyb Grangetown.

Dywedodd Rosie Cripps, Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol: “Mae staff a myfyrwyr o ar draws y Brifysgol wedi mwynhau helpu i ddatblygiad Marchnad Byd Grangetown.

“Mae gweithio'n uniongyrchol gyda chymaint o fusnesau yn Grangetown, gan gynnwys entrepreneuriaid ifanc a chwmnïau fel Divine Beauty a Clark's Pies, wedi bod yn brofiad gwych.

Mae'r Porth Cymunedol yn gweithio law yn llaw â thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell fyth i fyw.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw’r Brifysgol, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais i werthu eich nwyddau yn y digwyddiad, ewch i wefan Marchnad Byd Grangetown.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..