Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth yn yr Amgueddfa

2 Chwefror 2015

Yr Athro Kenneth Hamilton
Yr Athro Kenneth Hamilton

Cynhelir cyfres o gyngherddau amser cinio newydd o dan oruchwyliaeth yr Ysgol Cerddoriaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a fydd yn archwilio cerddoriaeth Chopin, ei gyfeillion a'i gymheiriaid.

Bydd yr Athro Kenneth Hamilton, y pianydd byd-enwog a phennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio tri chyngerdd fel rhan o'r gyfres (6 Chwefror, 13 Chwefror, 20 Chwefror). Bydd y cyngherddau hyn yn cynnwys gwaith gan Chopin a'i gymheiriaid, Liszt, Beethoven, Mendelssohn a Schumann ymhlith eraill, ynghyd â sylwebaeth hamddenol ar y darnau sy'n cael eu perfformio.

Dywedodd yr Athro Hamilton: "Dyma fenter newydd i ni. Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ymgyfarwyddo â rhai darnau o gerddoriaeth clasurol mawr eu bri mewn lleoliad hamddenol, cartrefol ac addysgol. Ni fydd y cyngherddau'n para mwy na 50 munud, felly bydd modd i bobl ddod i wrando yn ystod eu horiau cinio!"

Bydd y gyfres yn parhau ar 13 Mawrth gyda chyngerdd gan August Guan (harpsicord), tra bydd y soprano Jenni Cook a'r ffliwtydd Amy Likar yn perfformio ar 20 Mawrth.

Cynhelir pob cyngerdd am 1.10pm yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Y pris yw £5 y tocyn ond gallwch brynu tocyn i'r pum cyngerdd am £20. Mynediad am ddim i fyfyrwyr ac i bobl o dan 18 oed.

Gallwch brynu tocynnau ar-lein neu o Ticketsource trwy ffonio 0333 666 3366.
Ewch i wefan y cyngherddau i gael mwy o wybodaeth ar y gyfres hon a phob cyngerdd a digwyddiad arall a gynhelir yn y dyfodol agos.

Rhannu’r stori hon