Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cemeg yn penodi Pennaeth newydd

19 Mehefin 2017

Professor Damien Murphy

Penodwyd yr Athro Damien Murphy yn Bennaeth Ysgol Cemeg y Brifysgol

Bydd yr Athro Murphy yn goruchwylio holl weithgareddau’r Ysgol wrth iddi anelu at adeiladu ar ei record neilltuol ym maes ymchwil ac ymgysylltu a buddsoddi parhaus mewn cyfleusterau modern ar gyfer staff a myfyrwyr.

Mae’r Athro Murphy yn olynu’r Athro Rudolf Allemann, a benodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Is-ganghellor Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Wrth gychwyn ar y swydd, meddai’r Athro Murphy: "Mae'r Ysgol Cemeg wedi gweld llwyddiant aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd yn nifer y myfyrwyr, recriwtio staff, incwm ymchwil ac arallgyfeirio ein gwaith ymchwil. Rwyf yn falch o'r hyn a gyflawnwyd ac yn teimlo’n gyffrous am y cyfle i arwain yr Ysgol yn ei blaen ac i sicrhau parhad rhagoriaeth mewn addysgu, ymchwil, arloesi ac ymgysylltu"

"Mae ein staff i gyd yn hynod ymrwymedig ac yn angerddol am Gemeg, felly mae hefyd yn fraint i mi weithio gyda nhw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."

Enillodd yr Athro Murphy radd mewn cemeg yr Athrofa Technoleg Dulyn cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer ei PhD yn Universitá di Torino, yr Eidal.

Rhwng 1994 a 1995, roedd yr Athro Murphy yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethuriaeth yn Instituto Superior Technico yn Lisboa ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Pierre a Marie Curie ym Mharis.

Symudodd i Brifysgol Caerdydd ym 1996 fel Darlithydd mewn Cemeg Ffisegol, a than yn ddiweddar ef oedd Cyfarwyddwr Ymchwil a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol.

Mae ymchwil yr Athro Murphy yn canolbwyntio ar gymhwyso technegau spectroscopig Cyseiniant Parafagnetig Electron (EPR) uwch i astudio radicalau rhydd, rhywogaethau ocsigen adweithiol a chanolfannau parafagnetig mewn amrywiaeth eang o systemau moleciwlaidd, o ffotocatalysis i gatalysis unffurf.

Fel darlithydd Prifysgol profiadol mewn cemeg ffisegol, mae’r Athro Murphy yn teimlo’n angerddol am addysgu a phwysigrwydd addysg mewn pwnc sy'n datblygu drwy'r amser.

"Er bod cemeg yn parhau i fod yn bwnc hollbwysig, sy'n sail i nifer o ddisgyblaethau eraill, mae dyfodol y gwyddorau cemegol yn dal i fod yn ansicr," meddai’r Athro Murphy wedyn. "Mae'n bwysig ein bod yn rhoi i’n myfyrwyr y sgiliau arloesol hanfodol sydd eu hangen yn y sectorau cemegol modern a thrawsnewidiol er mwyn sicrhau bod graddedigion cemeg Caerdydd yn parhau i gael eu cydnabod yn fawr a bod galw mawr amdanynt."

Meddai’r Athro Rudolf Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Rwyf wrth fy modd fod yr Athro Murphy wedi dechrau ar y swydd. Mae ganddo gyfoeth o brofiad eisoes ac mae’n frwdfrydig dros ben am gemeg ac addysg, felly edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos ag ef ar lunio gweithgareddau’r Ysgol yn y dyfodol."

Mae’r Ysgol Cemeg yn denu dros 180 o fyfyrwyr o bedwar ban y byd bob blwyddyn ac mae wedi buddsoddi dros £14 miliwn yn ddiweddar mewn cyfleusterau i alluogi ymchwil ym mhob cangen o gemeg graidd a rhyngddisgyblaethol.

Yn ymarfer asesu ymchwil REF 2014, roedd yr Ysgol yn y 9fed safle yn y DU, a chafodd mwy na 95% o'i hymchwil yn cael ei graddio'n rhagorol yn rhyngwladol, neu'n arwain y byd.

Rhannu’r stori hon