Ewch i’r prif gynnwys

Lindysyn sy'n 'ddarn gwych o esblygiad'

26 Ionawr 2015

Caterpillar

Mae lindysyn newydd wedi cael ei ddarganfod sydd â'r gallu unigryw i greu ei gocŵn o fflawiau o resin sych – sylwedd gludiog sy'n diferu o goed sy'n caledu dros gyfnod.

Daeth y tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro William Symondson o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, o hyd i'r lindysyn yng Ngorsaf Maes Danau Girang yng nghoedwigoedd Borneo. Mae'n ymddangos bod cocŵn y lindysyn hwn yn unigryw gan na wyddom am unrhyw bili pala na gwyfyn yn gwneud cocŵn o'r fath ddeunydd.

Mae'r cocŵn penodol hwn wedi'i greu o ddwy wal ar wahân, ac fe'i adeiladwyd gan ddefnyddio fflawiau resin, y mae'r lindysyn yn eu gwau gyda'i gilydd gan ddefnyddio sidan. Caiff y resin ei drin gan y lindysyn i sicrhau bod y tu mewn yn esmwyth, tra bod yr arwyneb allanol yn cael ei amddiffyn gan bigau miniog, wedi eu ffurfio o ymylon garw fflawiau resin. Mae'r rhwystr ffisegol yn gwneud y lindysyn, ac yn ddiweddarach y chwiler, yn anodd ei gyrraedd. Mae'r resin yn cynnwys amrywiaeth eang o docsinau a sylweddau gwrth-fwydo gan sicrhau bod y lindysyn yn cael ei amddiffyn yn dda oddi wrth ysglyfaethwyr.

Darganfu'r Athro Symondson y lindysyn unigryw hwn ar ddamwain yn Borneo.

"Bob blwyddyn, rwy'n mynd allan i'n gorsaf maes, Danau Girang, ar afon Kinabatangan," dywedodd. "Fy arbenigedd yw entomoleg ac rwy'n mynd â grwpiau o fyfyrwyr i'r goedwig i edrych ar yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn anhygoel, o bili-palaod lliwgar iawn i sgorpionau.

"Un diwrnod, fe welais i lindysyn coch rhyfedd yn ymddwyn yn od ar ddarn o resin ar foncyff coeden, a'i ddangos i'r myfyrwyr. Roedd y lindysyn yn lliw coch yn bennaf, a daliodd hynny fy sylw, ac roedd yn flewog. Es i'n ôl yno ar adegau yn ystod y dydd a thynnu lluniau o'r camau amrywiol o ran creu'r cocŵn.

"Doeddwn i erioed wedi clywed am unrhyw lindysyn yn creu ei gocŵn o resin ond meddyliais ar y pryd fod hynny'n ymddygiad tra chyfarwydd. Pan es i'n ôl i'r DU, chwiliais drwy'r llenyddiaeth ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth.

"Wedyn, cysylltiad â nifer o bobl yn yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol yn Llundain, gan gynnwys Jeremy Holloway, awdur y llyfrau â aml-gyfrol, The Moths of Borneo, ond doedd yr un ohonyn nhw wedi gweld na chlywed am ymddygiad o'r fath o'r blaen."

Mae'r lindysyn yn lliw coch llachar, sy'n aml yn cael ei ddefnyddio gan anifeiliaid, gan gynnwys pryfed, i ddangos i ysglyfaethwyr eu bod yn wenwynig ac nad yw'n werth ymosod arnynt. Bydd yr anifail yn aml yn tynnu gwenwyn o'r planhigion y mae'n eu bwyta ac wedyn yn storio hyn yn ei feinweoedd i'w amddiffyn.

"Roedd hyn yn un rheswm pam y gwnaethom ni ddadansoddi cyfansoddiad cemegol y resin yr oedd yn ei ddefnyddio i greu ei gocŵn. Roedd y resin yn llawn cemegolion ataliol."

"Nid ydym ni'n gwybod am unrhyw achosion eraill o unman arall yn y byd o lindysyn yn creu cocŵn o fflawiau o resin," dywedodd yr Athro Symondson.

Mae'r darganfyddiad wedi codi cwestiynau ynghylch sut daeth y lindysyn i ddefnyddio strategaeth mor wreiddiol.

"Mae'n ddarn gwych o esblygiad, gan fod y resin yn hynod wenwynig ac mae'n gwneud i chi feddwl sut gwnaeth y rhywogaeth hon o lindysyn ddechrau defnyddio deunydd mor beryglus" dywedodd yr Athro Symondson.

"Mae perthnasau'r gwyfyn hwn yn creu cocynau o ddarnau o risgl ac felly mae'n debygol bod unigolion wnaeth eu creu yn gyntaf yn cynnwys cyfran o resin yn eu cocynau, yn ogystal â'r rhisgl, yn goroesi'n well. Mae'r resin nid yn unig yn cuddio'r chwiler yn dda yn gorfforol ond rhaid i unrhyw ysglyfaethwr chwilfrydig, aderyn neu bryfyn, fynd heibio rhwystr hynod wenwynig. Ychydig iawn ohonyn nhw sy'n debygol o allu gwneud hynny.

"Nid ydym yn gwybod y rhywogaethau o hyd. Nid ydym ni wedi gallu dod o hyd i enghraifft arall o'r lepidopteriad hwn trwy chwilio yn yr un ardal – pe baem ni'n gallu dod o hyd i gocŵn gyda'r chwiler y tu mewn iddo o hyd, gallem ni ei ddeor a byddai'r dirgelwch wedi ei ddatrys."

Nid dyma'r tro cyntaf i'r Athro Symondson ddarganfod creaduriaid newydd.

"Ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe wnaethom ddarganfod yr Ysbrydwlithen, a ddaeth yn un o'r 10 darganfyddiad newydd o rywogaethau yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn gwbl newydd i wyddoniaeth. Daethom ni o hyd iddi mewn gardd gefn yng Nghaerdydd, felly does dim rhaid i chi fynd i leoedd egsotig i ddod o hyd i rywbeth newydd. Ond os byddwch chi'n mynd i rywle egsotig ar eich gwyliau, dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd o'ch cwmpas, gan gynnwys y trychfilod."

"Cadwch eich llygaid ar agor a gallwch chi wneud darganfyddiadau newydd hefyd," mae'n cynghori.

Rhannu’r stori hon