Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ar amrywio a newidiadau ieithyddol - ysgoloriaeth PhD ar gael

9 Mehefin 2017

Welsh flag behind held by two people

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn chwilio am ymgeisydd PhD ar gyfer prosiect cyffrous newydd ar iaith yn y Gymru gyfoes.

Bydd y prosiect yn cael ei gyfarwyddo gan Dr Iwan Wyn Rees a Dr Jonathan Morris, academyddion nodedig ym maes ieithyddiaeth, sosioieithyddiaeth a thafodieitheg.

Pennaf nod y prosiect yw dadansoddi sut y mae ffactorau gwleidyddol a chymdeithasol yn effeithio ar amrywiadau a newidiadau ieithyddol yn y Gymraeg. Drwy gasglu data o un neu ddwy gymuned benodol, bydd yr ymgeisydd yn defnyddio dulliau sosioieithyddol meintiol er mwyn dangos i ba raddau mae gwahanol ffactorau cymdeithasol yn effeithio ar y defnydd o nodweddion tafodieithol penodol.

Dywedodd Dr Iwan Wyn Rees: “Er bod cryn dipyn o wybodaeth ar gael eisoes ynghylch amrywiadau llafar yn y Gymraeg, ychydig iawn o astudiaethau blaenorol sydd mewn gwirionedd yn ystyried effaith newidiadau diweddar yn nemograffeg a statws y Gymraeg yng Nghymru ar ddatblygiad y tafodieithoedd Cymraeg.”

Dyma gyfle arbennig i fyfyriwr gyfrannu at ymchwil sydd yn gymdeithasol ac yn ieithyddol bwysig ac o ddiddordeb gwleidyddol.

Ariennir y ddoethuriaeth gan y Coleg Cymraeg a’r Ysgol. Telir yr holl ffioedd dysgu ar ran yr ymgeisydd llwyddiannus (gwerth £4,195 y flwyddyn). Cynigir hefyd fwrsariaeth o £14,553 y flwyddyn.

Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd israddedig 2:1 neu ddosbarth cyntaf, ac yn ddelfrydol wedi cwblhau cwrs ôl-radd, ond gellid ystyried ymgeiswyr heb gymhwyster ôl-raddedig.

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn derbyn ffurflen gais cysylltwch â Cadi Thomas, +44(0)29 2087 4843, thomasCR9@caerdydd.ac.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20 Mehefin 2017 (5yh)

Dyddiad cyfweld (yng Nghaerdydd neu dros Skype): 26 Mehefin 2017

Rhannu’r stori hon