Ewch i’r prif gynnwys

A top gay-friendly employer

16 Ionawr 2015

Main Building

Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn un o gyflogwyr gorau'r DU sy'n ystyriol o bobl hoyw.

Am y pumed flwyddyn yn olynol, mae'r Brifysgol wedi cael ei chynnwys ar restr Stonewall o'r 100 cyflogwr gorau, mewn cydnabyddiaeth o'i hymroddiad i gydraddoldeb ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Mae Caerdydd wedi codi 28 lle ers y llynedd, ac mae bellach yn safle 24, y safle uchaf y mae'r Brifysgol wedi'i chyrraedd erioed, ar restr hynod gystadleuol a luniwyd gan Stonewall, sef elusen hawliau i bobl hoyw.

Mae Caerdydd bellach yn yr ail safle allan o wyth o brifysgolion y DU sy'n ymddangos yn y mynegai, sef prif brifysgol y Grŵp Russell, a'r unig brifysgol yng Nghymru i gyflawni'r statws hwn.

Dywedodd Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, sef rhwydwaith staff LHDTh+, "Mae rhestr Stonewall o'r 100 gorau yn un o'r meincnodau rydym ni'n ei ddefnyddio i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau'n ymroddedig i gydraddoldeb LHDTh+.

"Mae parhau yn y 100 gorau am y pumed flwyddyn a chodi 28 lle yn gyflawniad rhyfeddol ac mae'n amlygu'r gwaith rydym ni wedi'i wneud, a'r gwaith sydd i'w wneud o hyd hefyd.

"Rydym ni'n gwybod, mewn sefydliad o dros 6,000 o aelodau o staff, bod digon i'w wneud o hyd i greu'r amgylchedd gorau ar gyfer staff a myfyrwyr LHDTh+. Diolch yn fawr iawn i aelodau ein rhwydwaith staff a Ffrindiau Enfys am eu cymorth yn y Brifysgol a gobeithiwn y gall cymaint o bobl â phosibl ddod i un o'n digwyddiadau yn ystod Mis Hanes LHDTh ym mis Chwefror."

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle wedi cael ei gynllunio i herio ac ymestyn cyflogwyr ac arddangos sut rydym ni'n parhau'n ymroddedig i gydraddoldeb yn y gwaith.

"Hoffwn ddiolch i'r holl staff am gyfrannu at y gydnabyddiaeth hon ac, yn arbennig, i'n rhwydwaith staff LHDTh+, sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i fod yn sefydliad enghreifftiol.

"Mae'n addas bod prifysgol flaenllaw Cymru yn arwain ar hyn, a gobeithiwn barhau i adeiladu ar ein llwyddiant."

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yw offeryn blaenllaw Prydain i gyflogwyr fesur eu hymdrechion i fynd i'r afael â gwahaniaethu a chreu gweithleoedd cynhwysol ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Ers 2005, mae mwy na 800 o gyflogwyr mawr wedi cymryd rhan yn y mynegai, gan ddefnyddio meini prawf Stonewall fel model ar gyfer arfer da.

Mae Stonewall yn adolygu meini prawf y mynegai bob tair blynedd. 2015 yw blwyddyn gyntaf cylchred newydd y mynegai. Mae'r meini prawf newydd wedi cael eu llunio i wthio'r prif berfformwyr ymhellach a rhoi fframwaith i gyflogwyr feddwl a gweithredu ar ddechrau eu taith.

Rhannu’r stori hon