Ewch i’r prif gynnwys

Ymuno â’r triongl euraid

18 Rhagfyr 2014

Mae Caerdydd yn swyddogol yn un o'r tair prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am ei hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth, gan ryddhau gafael triongl euraid y Deyrnas Unedig o brifysgolion sy'n ddwys o ran ymchwil.  

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), sef ymarfer cenedlaethol sy'n asesu ansawdd ac effaith ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd heddiw (18 Rhagfyr 2014), mae Caerdydd wedi sicrhau lle ar y podiwm ymhlith y prifysgolion gorau yn y byd sy'n ddwys o ran ymchwil yn y maes hwn.

Dywedodd yr Athro Ed Wilding, Pennaeth Ysgol Seicoleg y Brifysgol: "Mae canlyniadau'r REF yn cadarnhau'r parch uchel a roddir i'n hymchwil gan ein cymheiriaid a'r buddion pellgyrhaeddol y mae ein gwaith yn eu sicrhau ar gyfer unigolion, cymdeithas a'r amgylchedd."

Gan gyfuno cryfder Ysgol Seicoleg uchel ei pharch y Brifysgol, Canolfan Geneteg a Genomeg Seiciatrig flaenllaw'r Cyngor Ymchwil Feddygol, yn ogystal â chanolfannau ymchwil allweddol eraill gan gynnwys Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru a'r Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, mae degawd o waith wedi helpu i sicrhau dealltwriaeth wyddonol newydd hollbwysig. 

Mae'r ddealltwriaeth newydd hon wedi arwain at effaith bellgyrhaeddol a pharhaus y tu allan i fyd academaidd y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, o archwilio'r berthynas gymhleth rhwng defnyddio canabis a'i effeithiau tymor hir ar iechyd meddwl, yn enwedig ei ddylanwad ar berygl sgitsoffrenia, i amlygu 'magl lywodraethu' sy'n rhwystro gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, a gwella diogelwch yn y diwydiant morol.

Ychwanegodd yr Athro Syr Mike Owen, Cyfarwyddwr Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol: "Rydym wedi cael dealltwriaeth sylfaenol o lawer o agweddau ar ymddygiad ac wedi gwneud darganfyddiadau pwysig ynglŷn ag achosion anhwylderau seiciatrig fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD); ac anhwylderau niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson a chlefyd Huntington.

"Mae'r canlyniadau hyn yn cadarnhau ein statws fel un o'r canolfannau arweiniol yn y Deyrnas Unedig a'r byd o ran seicoleg, seiciatreg a niwrowyddoniaeth."

Rhannu’r stori hon