Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Myfyrwyr Merched mewn Eiddo

6 Mehefin 2017

Myfyrwraig yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Fatima Moreno Viera’n ennill Cymeradwyaeth Uchel yng Ngwobr Myfyrwyr Merched mewn Eiddo De Cymru.

Cafodd Fatima, sy’n astudio am radd Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, sy’n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, ei henwebu am y wobr gan ei darlithydd, yr Athro Richard Cowell.

Yn siarad am y wobr meddai Fatima: “Rwy’n falch iawn gan taw fi oedd y person ieuengaf i gyrraedd y rownd derfynol a’r unig un nad oedd yn astudio gradd a oedd yn canolbwyntio’n llwyr ar arolygu. Mae’r profiad hwn wedi rhoi cyfle imi rwydweithio â gweithwyr proffesiynol rhanbarthol a chreu llawer o gyfleoedd posibl yn y dyfodol. Roedd yn werth chweil.”

Dywedodd Richard: “Dwi wrth fy modd dros Fatima.  Hi oedd y fyfyrwraig orau yn ei charfan ac mae eisoes wedi dangos ymrwymiad cryf i broffesiynau’r amgylchedd adeiledig gan gynnwys blwyddyn yn y diwydiant yn y Labordy Cynllunio a Phensaernïaeth yn Gran Canaria, Sbaen.”

Dywedodd Nicola Jones, Cadeirydd WiP De Cymru, “Mae’r Gwobrau hyn yn ceisio dod o hyd i’r myfyrwyr mwyaf talentog sy’n astudio cyrsiau’r amgylchedd adeiledig, a all gynnwys cynllunio i arolygu, pensaernïaeth i beirianneg, rheoli prosiect i gyllid eiddo, felly sbectrwm eang o ddisgyblaethau.

“Y nod yw codi safonau drwy herio myfyrwyr i werthuso eu pwnc, sut maen nhw’n gobeithio datblygu at yrfa a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar y daith. Gwnaeth pawb a gyrhaeddodd rownd derfynol eleni’n dda iawn a llongyfarchiadau i bob un.”

Cafodd prifysgolion eu gwahodd i enwebu eu myfyrwyr gorau o gyrsiau gradd yr amgylchedd adeiledig gyda 44 Prifysgol yn cymryd rhan yn 2017.

Caiff yr enillydd cenedlaethol ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ffurfiol yn Claridge’s ar 20 Medi.

Rhannu’r stori hon