Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Bêl-droed Cenedlaethol y Merched a Menywod

31 Mai 2017

football

Cynhelir yr ŵyl bêl-droed benywaidd fwyaf erioed yng Nghymru ym Mhrifysgol Caerdydd, i arwain at Gêm Derfynol Pencampwyr UEFA.

Bydd Gŵyl Bêl-droed Cenedlaethol y Merched a Menywod yn cael ei chynnal ar 1 Mehefin 2017. Bydd mwy na 1,500 o chwaraewyr mor ifanc â chwe blwydd oed yn cystadlu yn y digwyddiad cenedlaethol, sy'n arddangos pêl-droed benywaidd yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ar gaeau'r Brifysgol yn Llanrhymni, yn croesawu timau o Gymru, a bydd yn cyd-ddigwydd â Gêm Derfynol Pencampwyr Menywod UEFA yng Nghaerdydd yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: "Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Chaerdydd fel dinas, drwy gynnal y digwyddiad fel rhan o'r gweithgareddau ymylol cysylltiedig â gemau Cynghrair y Pencampwyr yn y ddinas yr wythnos hon.

"Mae Caerdydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mawr dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Brifysgol o hyd wedi eu cefnogi drwy gynnig lleoliadau a gwasanaethau. Bydd Caeau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni yn lleoliad gwych ar gyfer y bencampwriaeth genedlaethol a gobeithio y bydd yn llwyfan ar gyfer chwaraewyr pêl-droed benywaidd proffesiynol y dyfodol. Pwy a ŵyr, efallai y byddant yn chwarae yn rownd derfynol cynghrair y pencampwyr yn y dyfodol!"

Mae gan y Brifysgol hanes hir o gefnogi chwaraeon yn lleol ac annog merched a menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mewn Partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, mae'r Brifysgol yn cynnal Canolfan Perfformiad Merched De sy'n cefnogi ac yn datblygu chwaraewyr benywaidd talentog i symud ymlaen i sgwadiau rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn ogystal â hyn, mae mwy na 40 o dimau lleol yn chwarae a hyfforddi yng nghyfleusterau'r Brifysgol bob wythnos yn ystod y tymor.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi llwyddo ym maes chwaraeon benywaidd eleni. Mae hyn yn cynnwys tîm pêl-droed benywaidd y Brifysgol yn cael ei dyrchafu i uwch gynghrair BUCS am y tro cyntaf a Manon Carpenter, cyn-bencampwraig Beicio Mynydd i lawr rhiw y Byd yn ennill y wobr aur yng nghystadleuaeth unigol a thîm BUCS. Mae nifer o athletwyr benywaidd y Brifysgol hefyd yn cystadlu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn eu dewis nhw o chwaraeon.

Ychwanegodd Stuart: "Mae ein clybiau chwaraeon i ferched ac athletwyr unigol wedi cael cryn lwyddiant eleni. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i chwaraeon ar lefel uwch, ac ar lawr gwlad, sy'n galluogi merched a menywod i gyflawni eu llawn botensial."

Mae'r Ŵyl Genedlaethol Pêl-droed i Ferched a Menywod yn un o nifer o ddigwyddiadau sy'n cynnwys y Brifysgol cyn Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA.

Mae'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd – cyn-chwaraewraig cenedlaethol i Gymru, ac aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Bêl-droed - wedi trefnu digwyddiad sy'n edrych ar y ffordd y gall pêl-droed a chwaraeon helpu i gau'r bwlch rhwng y rhywiau. Bydd hi hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Bydd y Digwyddiad Ysbrydoli Menywod (1 Mehefin) yn cynnwys cyfraniadau gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Elin Haf Davies, Anturiaethwr ac Awdur ac Adrian Wells, Uwch-Reolwr Marchnata UEFA. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng cyfraniad merched i chwaraeon, datblygiad proffesiynol a'r manteision economaidd a ddaw o fenywod mewn sefyllfa well er mwyn gweld cynnydd.

Mae Rownd Derfynol Arloesedd Chwaraeon (SPIN) hefyd yn cael ei chynnal a fydd yn arddangos 10 cyflwyniad arbennig gan gwmnïau chwaraeon, yn ogystal â Fiction Fiesta, gŵyl farddoniaeth a ffuglen a fydd yn dathlu ein hoffter o bêl-droed ac ysgrifennu straeon byrion.

Rhannu’r stori hon