Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Is-Ganghellor Newydd

25 Mai 2017

Professor Gary Baxter

Bydd yr Athro Baxter yn cymryd cyfrifoldeb am Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd gan ddilyn yr Athro Dylan Jones sy'n rhoi'r gorau i'r swydd i ganolbwyntio ar ei ymchwil.

Am y saith blynedd ddiwethaf, mae'r Athro Baxter wedi bod yn Bennaeth yr Ysgol Fferylliaeth.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae'r Athro Baxter yn academydd nodedig sydd â hanes rhagorol yn arwain yr Ysgol Fferylliaeth...”

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn adeiladu'n llwyddiannus ar y sylfaen gadarn a osodwyd gan yr Athro Dylan Jones, gan ddatblygu addysgu ac ymchwil y Coleg, sydd eisoes yn rhagorol.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor y Brifysgol Caerdydd

Ychwanegodd yr Athro Dylan Jones: “Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Gary Baxter am fy olynu i fel Dirprwy Is-Ganghellor. Bydd yn defnyddio ei brofiad helaeth o gynnal ysgol hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd. Gall gynnig dealltwriaeth ddofn o’r ystod hynod eang o feysydd ymchwil a geir ym maes biofeddygol yn ogystal ag arbenigedd mewn hyfforddi myfyrwyr ar bob lefel, yn enwedig ar gyfer eu rôl glinigol a’u cyfrifoldebau proffesiynol...”

“Gwn fod yr Athro Baxter yn ymrwymo’n frwdfrydig ac yn egnïol i waith y Coleg, a bydd ei barodrwydd i gydweithio yn atgyfnerthu tîm y Coleg ac yn rhoi bywyd newydd iddo. Bydd ei safbwynt a’i syniadau newydd yn gyrru’r Coleg ymlaen ac yn sbarduno meysydd newydd a chyffrous o gyflawniad academaidd ac arloesedd.”

Yr Athro Dylan Jones

Dywedodd yr Athro Baxter: “Rwyf i wrth fy modd i gael fy mhenodi i arwain Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd fel Dirprwy Is-Ganghellor newydd. Ein Coleg yw un o'r cyfadrannau bioleg, gofal iechyd a gwyddor feddygol mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y DU.

“Dan arweiniad yr Athro Dylan Jones, mae sylfeini cadarn y Coleg wedi'u gosod ac rydym ni wedi cyflawni llwyddiannau eithriadol. Rwyf i am i ni adeiladu ar y cyflawniadau hyn i sicrhau cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd fel canolfan addysg ac ymchwil arweiniol mewn gwyddor fiolegol, biofeddygaeth, ymarfer clinigol a chanlyniadau iechyd.

“Rwyf i'n llawn cyffro wrth edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr, cydweithwyr yn y Coleg, ysgolion academaidd a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol. Rwyf i'n edrych ymlaen yn arbennig at ymgysylltu â GIG Cymru a'n partneriaid a rhanddeiliaid niferus eraill y tu allan i'r Brifysgol...”

“Mae gennym gyfle i wireddu gweledigaeth academaidd uchelgeisiol i'r Coleg ac iddo fod yn gatalydd ar gyfer twf yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru a chyflenwi gofal iechyd trawsnewidiol i bobl Cymru.”

“Mae'n fraint cael arwain yr uchelgais hwn ar ran y Brifysgol.”

Fel rhan o rôl y Dirprwy Is-Ganghellor, bydd yr Athro Baxter yn gyfrifol am reoli ac arwain Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg, ac o hybu datblygiad dysgu, addysgu a rhagoriaeth ymchwil.

Cymhwysodd yr Athro Baxter yn wreiddiol mewn fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac Ysbyty Brenhinol Llundain. Ar ôl cyfnod mewn ymarfer clinigol mewn ysbytai yn East Anglia, aeth ymlaen i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil mewn ffarmacoleg arbrofol. Dyfarnwyd ei PhD yn 1992 am ymchwil ar aflonyddwch rhythm y galon mewn pwysedd gwaed uchel.

Mae'r Athro Baxter wedi ennill Gwobr Bowman Cymdeithas Fferyllol Prydain a Gwobr Naranjan Dhalla yr Academi Gwyddorau Cardiofasgwlaidd Ryngwladol, ac wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Ewrop Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil y Galon ac ar gyngor Cymdeithas Ewropeaidd Cardioleg a'r Gweithgor ar Fioleg Celloedd y Galon 2004-2009.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, roedd yr Athro Baxter yn Gymrawd Ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon yn Athrofa Gardiofasgwlaidd Hatter a'r Adran Ffisioleg yn UCL.  Ar ôl cyfnod yng Nghanolfan y Galon Cape yn Ne Affrica, fe'i penodwyd yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Meddygaeth UCL yn 2000 ac yna'n Ddarllenydd mewn Bioleg Gardiofasgwlaidd yn y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, Prifysgol Llundain.

Mae Ymchwil yr Athro Baxter yn canolbwyntio ar glefyd isgemia'r galon a'i driniaeth, gyda phwyslais penodol ar benderfynyddion moleciwlaidd anafiadau cyhyrol y galon yn ystod cnawdychiad myocardaidd aciwt (trawiad ar y galon). Mae wedi cyhoeddi'n eang ar rolau mecanweithiau arwyddo cemegol sy'n berthnasol i ddatblygu triniaethau i amddiffyn cyhyr y galon. Yn 2009, dyfarnwyd doethuriaeth uwch (D.Sc) iddo gan Brifysgol Nottingham am gorff o weithiau cyhoeddedig ar y pwnc hwn ac fe'i hetholwyd i Gymrodoriaethau Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Cymdeithas y Galon America a Chymdeithas Cardioleg Ewrop.

Mae'r Athro Baxter yn athro prifysgol profiadol a hefyd yn ymrwymo i amcanion eang addysg ryddfrydol ac wedi addysgu ystod eang o bynciau, gan gynnwys elfennau o ffisioleg, ffarmacoleg ac athroniaeth gwyddoniaeth, i fyfyrwyr gwyddorau naturiol, meddygaeth, gwyddor filfeddygol a fferylliaeth.

Rhannu’r stori hon

Dewch o hyd i’n cynlluniau ar gyfer ymchwil o fewn Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd rhwng 2016-2018.