Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd i gynnal digwyddiad ynni rhyngwladol

12 Mai 2017

EU flag in front of building

Mae Prifysgol Caerdydd wedi trefnu digwyddiad rhwydweithio fydd yn cael ei gynnal cyn rhaglenni gwaith Horizon 2020 i annog cysylltiadau newydd rhwng y byd academaidd a busnesau.

Bydd Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni Prifysgol Caerdydd yn cynnal y digwyddiad dros ddeuddydd ym Mrwsel, ac yn dod ag arbenigwyr o'r sector at ei gilydd i drafod cyfleoedd cyn y rownd nesaf o gyllid gan Ewrop.

Bydd y digwyddiad, Ehangu Gorwelion Ynni:  Paratoi ar gyfer llwyddiant yn rhaglenni gwaith newydd Horizon 2020 (2018-2020), yn rhoi sylw'n benodol i'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau, ac yn archwilio'r rôl hanfodol sydd gan ddinasyddion mewn newid ein systemau ynni.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i fyd diwydiant a'r byd academaidd i rannu enghreifftiau o arferion gorau mewn prosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu gan Horizon 2020.

Yn ogystal â hyn, bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar destunau craidd ymchwil ynni yng ngalwad ariannu nesaf Horizon 2020, a fydd yn galluogi rhanddeiliaid i nodi meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin a chefnogi mentrau cydweithredol newydd.

Y pedwar testun yw: arweinyddiaeth fyd-eang mewn technolegau ynni adnewyddadwy; system ynni clyfar sy'n rhoi'r dinesydd yn gyntaf; defnyddio ynni'n effeithlon; a datgarboneiddio tanwyddau ffosil.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhŷ Cymru, Brwsel ddydd Llun 22 Mai a dydd Mawrth 23 Mai 2017. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch yma.

Rhannu’r stori hon

We're hosting a Horizon 2020 international energy event in Brussels on 22-23 May for academics and colleagues in business and industry.