Ewch i’r prif gynnwys

Disgyblion Ysgol Gynradd Cwmclydach yn wyddonwyr am ddiwrnod

6 Ebrill 2017

Schoolgirl in lab gear

Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Cwmclydach yn Rhondda Cynon Taf gyfle i gynnal arbrofion gwyddonol 'go iawn' yn rhan o weithdy cemeg a gynhaliwyd yn yr ysgol.

Yn y profiad dysgu ymarferol, a drefnwyd gan y Brifysgol mewn partneriaeth â First Campus, fe wisgodd y plant gogls a ffedogau er mwyn cynnal arbrofion ymarferol a chael blas ar gemeg.

Yn rhan o'r sesiwn, profodd y plant asidedd amrywiaeth o nwyddau'r cartref, o finegr i siampŵ, er mwyn darganfod y cemeg sylfaenol y tu ôl i eitemau bob dydd, cyn adrodd eu canlyniadau i'r dosbarth. Drwy gynnal arbrofion syml ond difyr, roedd y disgyblion yn gallu chwalu mythau am wyddoniaeth a deall bod cemeg ar waith ym mhobman o'n cwmpas - o'r cynhyrchion glanhau rydym ni'n eu defnyddio i'r bwyd rydym ni'n ei fwyta.

Schoolboys conducting chemical experiment

Gorffennodd y gweithdy gyda chyfle i'r plant ofyn cwestiynau i arweinwyr y gweithdy am unrhyw agwedd o gemeg, gan helpu i feithrin dychymyg a chywreinrwydd am yr hyn sy'n bosib yn wyddonol.

'I danio diddordeb a chwilfrydedd'

Ymchwilwyr a myfyrwyr israddedig o Ysgol Cemeg y Brifysgol a arweiniodd y sesiwn. Mae Caerdydd yn cynnal rhaglen o weithgareddau mewn ysgolion ar draws de Cymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth, ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gemegwyr, meddygon a pheirianwyr.

Dywedodd Liam Thomas o Ysgol Cemeg y Brifysgol, a arweiniodd y gweithdy:“Yn aml mae plant yn gweld cemeg fel rhywbeth cymhleth, neu bron fel iaith arall. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â stereoteipiau cemegol fel tiwbiau prawf byrlymus a hafaliadau mathemategol hir. Bwriad sesiwn heddiw yw helpu pobl ifanc i ddeall nad oes rhaid i wyddoniaeth fod yn anodd, y gall fod yn hwyl, ac - yn anad dim - y gall unrhyw un fod yn wyddonydd.”

Schoolgirls conducting chemical experiment

Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd:“Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth enfawr o weithgareddau sy'n ceisio codi dyheadau ac ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau ar daith at addysg uwch…”

“Dim ond un enghraifft yw gweithdy heddiw o'r ffordd y mae ein hymchwilwyr yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled Cymru i danio diddordeb a chwilfrydedd.”

Ychwanegodd Kayley Phillips, Athrawes Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Cwmclydach: “Mae mentrau fel sesiwn heddiw dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn helpu i ddod â chemeg yn fyw. Roedd y gweithdy cemeg yn gyfle gwych i ddisgyblion ymgymryd â gweithgareddau cyffrous, ymarferol sy'n dangos sut mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd bob dydd.”

Rhannu’r stori hon

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.