Ewch i’r prif gynnwys

Dehongli Demoniaid

6 Ebrill 2017

Aramaic incantation bowl from Nippur (modern day Iraq)
image courtesy of the Penn Museum [Image #152805]

Cyhoeddir ymchwil i ddehongliadau Iddewig a Christnogol cynnar wrth i ysgolhaig o’r Brifysgol gael grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Bydd academydd arloesol ym maes Astudiaethau Crefyddol yn cynnal prosiect ymchwil newydd yn y DU ar ‘esboniadau demonaidd’, dull o ddehongli testunau cynnar sy’n cyfeirio at ddemoniaid.

Bydd prosiect Esbonio Demonaidd yn canolbwyntio ar rôl dehongli’r Beibl wrth lunio demonoleg Iddewig a Christnogol a’r rhyngweithio rhwng y ddwy gymuned ffydd.

Datblygwyd cyfres eang o gredoau am ddemoniaid yn y ffydd Iddewig erbyn 500OC ac ystyriwyd bod y rhain yn rhan graidd o’r Ysgrythurau Iddewig. Er hyn, nid oes llawer o sôn am ddemoniaid yn y Beibl Iddewig ei hun.

Felly, sut, a pham, mae pobl yn credu bod y testunau hyn yn sôn am ddemoniaid?

Wrth ddod â’r astudiaeth o ddemonoleg, dehongli’r Beibl, a rhyngweithio Iddewig-Cristnogol yn y cyfnod Rabineg (70OC-c.500OC) ynghyd, bydd y prosiect tair blynedd hwn yn archwilio i’r ffenomenon diddorol hwn.

Arweinir y prosiect ymchwil gwerth £200,000 gan Dr Hector Patmore, darlithydd mewn Hebraig ac Iddewiaeth, a bydd yn gofyn:

  • Pa destunau Beiblaidd oedd yr Iddewon yn cysylltu â demoniaid?
  • Pryd cysylltwyd y testunau â demoniaid am y tro cyntaf?
  • Sut mae’r traddodiadau hyn yn perthyn i gredoau Cristnogol am ddemoniaid?

“Mae’r diddordeb mewn demonoleg Iddewig wedi cynyddu dros y degawdau diwethaf - yn enwedig ers cyhoeddi Sgroliau’r Môr Marw - ond nid yw’r berthynas rhwng hyn a dehongli’r Beibl wedi cael digon o sylw,” ychwanegodd Dr Patmore.

Bydd prosiect Esbonio Demonaidd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2017 ac yn para tair blynedd tan 2020 gyda chymorth nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Mae Dr Patmore ar secondiad ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Astudiaethau yng Ngholeg St George, Jerwsalem. Mae’n ymchwilio i gyfieithu a dehongli’r Beibl Hebraeg yn y cynfyd yn ogystal â syniadau am ddrygioni a demonoleg yn y cynfyd.

Rhannu’r stori hon