Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu Myfyrwyr Meddygol i Astudio trwy’r Gymraeg

11 Rhagfyr 2014

Students Receive Funding to Study Medicine through Welsh

Bydd modd i fyfyrwyr astudio Meddygaeth yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf yn 2015, a hynny ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Bydd darlithwyr a benodwyd o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dysgu ac yn cefnogi darpar fyfyrwyr meddygol sy'n dymuno dilyn rhan o'u cwrs trwy'r iaith.

Bydd Sara Whittam ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Dr Heledd Iago ym Mhrifysgol Abertawe yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau clinigol a phroffesiynol yn y Gymraeg ac yn cael trin a thrafod elfennau o'u cyrsiau yn Gymraeg.

Bydd pwyslais ar sgiliau ymarferol yn ogystal ag ymchwil yn y ddwy brifysgol. Bydd pob myfyriwr yn cael cefnogaeth tiwtor personol ac yn elwa o ddysgu ar leoliad gyda meddygon a chleifion cyfrwng Cymraeg.

Mae galw cynyddol am fwy o weithwyr dwyieithog ym maes gofal iechyd ar draws Cymru a meddygon sydd â'r gallu i ddarparu gwasanaeth trwy'r Gymraeg er mwyn ennyn ymddiriedaeth a chynnal perthynas glos â'r claf.

Dywedodd Sara Whittam, Rheolwr Datblygu Iaith Gymraeg yr Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r anogaeth hon i astudio yn y Gymraeg yn gweddu gydag ymateb positif y Gweinidog Iechyd Yr Athro Mark Drakeford i awgrymiadau Comisiynydd y Gymraeg yn ei adroddiad diweddar ar ofynion ieithyddol Gofal Sylfaenol. Un o'r themâu cryf yn yr adroddiad yw'r angen i ddatblygu hyfforddiant sydd yn sicrhau gweithlu pwrpasol a hyderus i ofalu am gleifion yn y Gymraeg. Fyddwn yn gobeithio fod y datblygiadau hyn yn y maes Meddygaeth yn sicrhau cenhedlaeth newydd o feddygon sydd yr un mor hyderus yn eu maes clinigol yn y Gymraeg ac y maent yn y Saesneg."

Yn ôl Dr Heledd Iago, fydd yn arwain darpariaeth cyfrwng Cymraeg cwrs mynediad i raddedigion o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe:

''Mae'n holl bwysig bod ein myfyrwyr meddygol yn ymwybodol bod eu Cymraeg yn sgil ychwanegol, all gael ei defnyddio i gynnig gwasanaeth o ansawdd uwch i gleifion yng Nghymru. Bydd profiadau clinigol cyfrwng Cymraeg yn cynorthwyo ein myfyrwyr i fagu a meithrin hyder i drin a thrafod gyda chleifion a chydweithwyr yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.''

Bydd y cyrsiau yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol felly bydd modd i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio cyfran o Feddygaeth trwy'r Gymraeg ymgeisio am gymorth ariannol o £1,500 erbyn 8 Mai 2015.

Un oedd yn falch o glywed am ddarpariaeth newydd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd a'r gefnogaeth ariannol fydd ar gael trwy ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd Mari Trydwr o Ysgol Dyffryn Ogwen:

''Trwy'r Gymraeg yn unig y mae rhai cleifion yn gallu cyfathrebu eu hanghenion yn effeithiol felly mae'n bwysig bod ganddynt y dewis i dderbyn y gofal gorau posibl trwy eu mamiaith. Byddaf yn manteisio ar y cyfle i wneud rhan o Feddygaeth trwy'r Gymraeg heb anghofio ymgeisio am Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.''

Rhannu’r stori hon