Ewch i’r prif gynnwys

Peirianwyr am ddatblygu ‘uwch grid’ yn yr UE i rannu pŵer gwynt

8 Rhagfyr 2014

.  Engineers aim to develop EU ‘super grid’ for sharing wind power

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar dechnoleg a fydd yn cyfrannu at ddatblygu 'uwch grid' ar gyfer rhannu pŵer adnewyddadwy ar draws Ewrop.

Gobaith y tîm yw datgloi ffyrdd o ddod ag ynni adnewyddadwy i gartrefi a busnesau, gan leihau'r defnydd ar danwydd ffosil.

Trwy weithio gyda Phrifysgol Leuven (KU Leuven) yng Ngwlad Belg, mae prosiect MEDOW yn ymchwilio i ffyrdd o rannu pŵer gwynt ar y môr trwy system grid.

Meddai'r Athro Nick Jenkins, Arweinydd Ynni yn Ysgol Peirianneg Caerdydd: "Mae ynni gwynt yn ffynhonnell trydan glân, adnewyddadwy. Mae angen i ni gynhyrchu mwy ohono er mwyn i ni fod yn llai dibynnol ar danwydd ffosil drud sydd wedi'i fewnforio. Yn 2012, cafodd dros hanner yr ynni a ddefnyddiwyd yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb."

Mae MEDOW yn gweithio i ddatblygu grid cerrynt uniongyrchol, neu grid DC – ffordd fwy effeithlon o drosglwyddo a rhannu pŵer. Bydd grid ar draws Ewrop gyfan, yn hytrach na chysylltiadau unigol o bwynt i bwynt, yn atgyfnerthu dibynadwyedd ac yn helpu i gydbwyso'r cyflenwad pŵer a'r galw amdano.

Fe wnaeth staff academaidd a rheoli ymchwil o Gaerdydd a KU Leuven gyfarfod yng Nghaerdydd mewn Digwyddiad Canolbwynt Polisi Vision2020. Mae Vision2020 yn llwyfan cydweithio ar gyfer sefydliadau ymchwil a chwmnïau sy'n cymryd rhan yn rhaglen gyllido'r Undeb Ewropeaidd 'Horizon 2020'.

Un o'r prif eitemau ar yr agenda oedd gwaith Caerdydd yn cydlynu Clwstwr Ynni Vision2020.  Rhagwelir y bydd gwaith y Clwstwr yn galluogi mwy o gydweithrediadau ymchwil i ynni rhwng y ddwy brifysgol, a fydd yn caniatáu iddynt fanteisio ar fwy o gyllid gan yr UE.

Mae'r syniad o grid pŵer ynni adnewyddadwy i Ewrop yn cael ei gefnogi gan yr elusen amgylcheddol Greenpeace.

Ychwanegodd yr Athro Jenkins: "Mae ffermydd gwynt newydd yn debygol o gael eu gosod ar y môr, lle mae'r gwynt yn gyflymach ac mae tyrbinau'n cael llai o effaith weledol. Oherwydd bod pŵer gwynt ar y môr yn cael ei gynhyrchu'n bell o'r man lle caiff ei ddefnyddio, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd gwell o gludo'r pŵer i'r grid ar y tir.  Yn ogystal, bydd cynyddu'n defnydd ar bŵer gwynt yn ategu'r broses o drydaneiddio gwresogi a chludiant yn y dyfodol, a allai wneud gwahaniaeth mawr i allyriadau carbon a'r dibynadwyedd ar fewnforion tanwydd."

Mae MEDOW (Grid DC Aml-derfynell ar gyfer Gwynt ar y Môr) yn Rhwydwaith Hyfforddiant Cychwynnol Marie Curie a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd ac a gydlynir gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r tîm yn gweithio gyda phum prifysgol a chwe sefydliad diwydiannol sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu, dylunio a gweithredu gridiau DC aml-derfynell. 

Gobaith tîm Caerdydd yw y bydd eu hymchwil yn sylfaen i rwydwaith trawsyrru trydan ar draws Ewrop gyfan er mwyn cyflwyno un farchnad drydan Ewropeaidd, datblygu technoleg ynni cynaliadwy a chreu swyddi.

Ychwanegodd yr Athro Jenkins: "Mae ynni yn effeithio ar bron pob agwedd ar ein bywyd ac, felly, nid delfryd yw dod o hyd i ffyrdd o sicrhau cyflenwad ynni glanach, fforddiadwy a mwy sicr: mae'n hanfodol."

Ymhlith partneriaid rhyngwladol MEDOW y mae'r Universitat Politècnica de Catalunya (Sbaen); Danmarks Tekniske Universitet (Denmarc) a Sefydliad Ymchwil Pŵer Trydan Tsieina (Tsieina).

Meddai Dr Jun Liang, o Ysgol Peirianneg Caerdydd a Phrif Ymchwilydd MEDOW: "Diolch i gydweithio â phrifysgolion partner eraill, gan gynnwys KU Leuven, mae trafodaethau technegol rheolaidd wedi ysbrydoli'n syniadau.  Rydym wedi gallu ein cyflwyno ein gilydd i'n partneriaid diwydiannol, sy'n ehangu gweledigaeth ein hymchwil ac yn helpu i rannu'r deilliannau."