Ewch i’r prif gynnwys

Mewn Cyfnodau Tywyll: pwysigrwydd mynegi a gwrthwynebu

24 Mawrth 2017

Cwestiwn llosg a ofynnir mewn ‘Gwrth-Ddarlith’ Athroniaeth gyhoeddus

Sut mae byw mewn cyfnodau tywyll a sut gallwn ddefnyddio mynegi a gwrthwynebu? Mae digwyddiad gan Sefydliad Brenhinol Athroniaeth yn ymdrin â’r cwestiwn llosg mewn digwyddiad ychydig yn wahanol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Dr Sandy Grant, yr athronydd o Brydain, yn ymateb i’r newid gwleidyddol mawr sy’n ysgubo ar draws Ewrop a thu hwnt mewn darlith gyhoeddus am ddim ddydd Gwener 7 Ebrill. Wrth ofyn beth mae’n ei gymryd i wrthwynebu a sut gallwn siarad “y tu allan i’n cyfnod”, yn ystod y cyfnod ei hun a hefyd yn ei erbyn neu’r tu hwnt iddo, mae Dr Grant yn dadlau bod angen inni ystyried gweithredoedd mynegi, a sut gall mynegi greu byd.

Mae Dr Grant wedi ymrwymo i’r syniad mai rhywbeth i bawb yw athroniaeth, ac mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau gan gynnwys Post Truth, Orwell and Doublespeak ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni fel Start the Week a Women’s Hour ar Radio 4.

Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, bydd dau ysgolhaig blaenllaw o feysydd hanes a’r gyfraith yn arwain trafodaethau mewn digwyddiad bord gron agored.

Bydd awdur Czechoslovakia: The State That Failed, a ganmolwyd fel un o’r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn y Dyniaethau yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, sef yr Athro Hanes Modern Mary Heimann yn ymuno â’r drafodaeth. Mae ei hymchwil trwyadl wedi cael effaith fawr y tu hwnt i'r byd academaidd, a phenllanw hyn oedd cyflwyno ei mewnwelediadau i raniad heddychlon Tsiecoslofacia ym Mhartneriaeth NATO ar gyfer Heddwch.

Y trydydd ar y panel yw Ambreena Manji, Athro’r Gyfraith. Mae’r Athro Manji yn gynghorydd arbenigol a enwebwyd i gynhadledd Cynefin III gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac mae wedi cynghori nifer o sefydliadau rhyngwladol ar faterion yn ymwneud â thir.  Mae hi'n eistedd ar nifer o gyrff gan gynnwys Cyngor Cymdeithas Astudiaethau Affricanaidd y DU a Phwyllgor Ymchwil y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica.

Mae Darlith Flynyddol Sefydliad Brenhinol Athroniaeth yn digwydd ddydd Gwener 7 Ebrill ym Mhrif Adeilad y Brifysgol (17:00, Darlithfa Shandon). Argymhellir i chi gadw lle.

Rhannu’r stori hon