Ewch i’r prif gynnwys

Syniadau am Gymru

20 Mawrth 2017

Ideas of Wales at the Senedd

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain cyfres newydd yn trafod cysyniad y sffêr cyhoeddus, a'i gyflwr yng Nghymru yn y Senedd.

Nod Syniadau am Gymru yw galluogi trafodaeth athronyddol ar y cwestiynau mawr sy'n wynebu'r genedl heddiw.

Dan arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd, mae'r gyfres yn ymdrin â chwestiynau, themâu a phobl sy'n ganolog i fywyd deallusol y genedl, neu wedi cyfrannu iddo.

Yn arwyddocaol, mae'n awyddus i gyfrannu at y drafodaeth gymdeithasol, wleidyddol a chrefyddol am y sffêr cyhoeddus yng Nghymru - ac am fod yn rhan o'r ymdrechion i'w gyfoethogi ar yr un pryd.

Agorodd y gyfres gyda'r athronydd Dr Huw Rees o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn trafod cysyniad y sffêr cyhoeddus, y ffordd mae'n gweithredu a pham y caiff ei ystyried mor hanfodol bwysig i'r drefn ddemocrataidd.

Ymunodd yr Ymchwilydd, Dr Dan Evans, rhan o'r tîm ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru Prifysgol Caerdydd â'r sesiwn i drafod cyflwr y sffêr cyhoeddus yng Nghymru a'r heriau penodol a wynebir.  Bydd pob sesiwn yn cloi gyda sesiwn holi a thrafod.

Meddai Dr Rees: "Mae sffêr cyhoeddus sy'n gweithredu'n dda yn hanfodol ar gyfer democratiaeth sy'n gweithredu'n dda. Mae sffêr cyhoeddus Cymru'n wan, a phrin yw'r allfeydd newyddion brodorol neu ffora ar gyfer trafodaeth feirniadol. Os ydym ni am weld Cymru'n datblygu, mae angen i ni fynd i’r afael â hyn."

Agorodd Syniadau am Gymru ddydd Mawrth 14 Mawrth am 18:00 yn y Senedd ym Mae Caerdydd mewn sesiwn a noddwyd gan Elin Jones AC a Jeremy Miles AC.

Bydd sesiynau eraill yn dilyn ar 4 Ebrill, 16 Mai, 6 Mehefin a 18 Gorffennaf.

Rhannu’r stori hon