Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i goncrid sy'n trwsio ei hun

16 Mawrth 2017

Professor Robert Lark with self-healing concrete

Mae ymchwil sy'n torri tir newydd ym maes concrid sy'n trwsio ei hun wedi cael dros £4 miliwn o arian newydd i ganfod ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â chostau cynyddol cynnal a chadw ledled y DU.

Mae prosiect RM4L a arweinir gan Brifysgol Caerdydd wedi cael yr arian gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a chaiff ei ddefnyddio i ddatblygu deunyddiau clyfar sy'n gallu canfod difrod dros eu hunain a'i drwsio, heb gymorth pobl.

Ar yr un diwrnod â'r cyhoeddiad, ymwelodd Jo Johnson, y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesedd, â'r Brifysgol yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Bapur Gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol.

Nod prosiect RM4L yw helpu cwmnïau ymgorffori technolegau hunanwellhaol mewn systemau awtomatig sy'n gallu trwsio concrid mewn ardaloedd trefol.

Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, Jo Johnson: “Mae prosiect RM4L yn enghraifft wych o ddefnyddio ymchwil i ganfod atebion a gwella dulliau gweithio...”

“Drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol a'n buddsoddiad mwyaf erioed o £4.7 biliwn ar gyfer ymchwil a datblygu, byddwn yn parhau i gefnogi prosiectau fel hyn, gan sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran arloesedd am flynyddoedd i ddod."

Jo Johnson Gweinidog Gwyddoniaeth

Ar hyn o bryd, caiff biliynau o bunnoedd eu gwario bob blwyddyn yn cynnal a chadw, atgyweirio ac adfer strwythurau fel pontydd, adeiladau, twneli a ffyrdd.

Amcangyfrifir bod tua £40 biliwn y flwyddyn yn cael ei wario yn y DU ar atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau, a'r rhan fwyaf o'r strwythurau hyn wedi'u gwneud o goncrit.

Jo Johnson with Professor Graham Hutchings
Jo Johnson, Science Minister, talks to Professor Graham Hutchings, Director of the Cardiff Catalysis Institute.

Bydd RM4L yn cael ei arwain gan ymchwilwyr yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Bradford, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol.

#Bydd RM4L yn adeiladu ar lwyddiant ei ragflaenydd, prosiect 'Deunyddiau Am Oes' (M4L) a gynhaliodd y treialon cyntaf yn y DU gyda choncrid oedd yn trwsio'i hun y llynedd. Defnyddiwyd deunyddiau fel polymerau sy'n cofio siapiau, meicrogapsiwlau a rhwydweithiau llif oedd yn cynnwys asiantau sy'n seiliedig ar fwynau a bacteria sy'n ffurfio calsit.

Dywedodd yr Athro Bob Lark, Prif Ymchwilydd y prosiect o'r Ysgol Peirianneg: “Dyma gyfle gwych i ddatblygu canfyddiadau cyffrous M4L i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar yr ystod lawn o ddifrod cymhleth a achosir i ddeunyddiau adeiladu a'r atebion iddynt...”

“Rydym yn hyderus y caiff ein hymchwil effaith arwyddocaol ar gynaliadwyedd ein hisadeiledd ac rydym yn ddiolchgar dros ben i ESPRC am yr hyder sydd ganddynt yn yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni.”

Yr Athro R. (Bob) Lark Professor

Dywedodd yr Athro Philip Nelson, Prif Weithredwr EPSRC: "Gallai RM4L chwyldroi'r ffordd y mae ein hisadeiledd yn ymdopi â thraul tymor hir yn ogystal â lleihau costau yn sylweddol.

“At hynny, yn rhan o gefnogaeth barhaus EPSRC ar gyfer ymchwil sy'n arwain y byd yn y maes hanfodol hwn, bydd uwchraddio isadeiledd yn sicrhau bod y DU yn parhau'n genedl ffyniannus a chryf.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.