Ewch i’r prif gynnwys

Brwydr Salamis: trobwynt yng ngwareiddiad y Gorllewin?

16 Mawrth 2017

In Our Time
In Our Time on BBC Radio 4

Hanesydd o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â rhaglen In Our Time i drafod y frwydr hynafol rhwng hen wlad Groeg a Phersia

Bydd Athro Hanes yr Henfyd, Lloyd Llewelyn Jones, yn ymuno â phanel nodedig ar gyfres eiconig Radio Four i drafod adeg tyngedfennol yn hanes y ddynoliaeth.

Cyn Brwydr Salamis yn 480BC, roeddy Persiaid wedi bod yn llwyddiannus ym mrwydrau Thermopylae ac Artemisium, Boetia ac Attica yn rhan o'u hail ymosodiad ar Wlad Groeg.

300 Rise of an Empire
300 Rise of an Empire

Gellid dadlau mai dyma un o'r brwydrau mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddynoliaeth. Byddai'r frwydr forol yn dod yn drobwynt wrth i gynghrair diffygiol o wladwriaethau dinasoedd Gwlad Groeg gael y gorau ar Brenin Xerxes o'r diwedd.

Wrth i'r llynges ddiffygiol dynnu'n ôl a symud i Ynys Salamis gerllaw, dechreuodd y Groegiaid baratoi i amddiffyn Isthmus Corinth. Mewn ymyriad allweddol i amddiffyn y Peloponnese, llwyddodd y gwleidydd a'r milwr o Athens, Thermistocles, ddwyn perswâd ar y cynghreiriaid i ymladd yn erbyn y tresbaswyr unwaith eto, gan gamarwain a thwyllo'r gelyn.

A hwythau bellach yn gwybod eu bod ar y droed flaen, dechreuodd llynges Persia rwyfo i Gulfor Salamis, gan obeithio rhwystro'r ddwy fynedfa at y Culfor. Fodd bynnag, cawson nhw eu rhwystro gan yr amodau cyfyng. Wrth i gychod Persia geisio symud, ffurfiwyd llynges gan y Groegiaid mewn llinell ac ennill y dydd.

Ymhen blwyddyn, rhoddodd frwydr Plataea a Mycale (479BC) ddiwedd ar unrhyw ymgais gan y Persiaid i goncro tir mawr Gwlad Groeg unwaith ac am byth. Er bod y brwydrau hanesyddol hyn wedi cael sylw haeddiannol mewn hanes, parhau mae'r trafod ynglŷn â sut y gallai canlyniad gwahanol i Frwydr Salamis fod wedi newid cwrs hanes.

Ychwanegodd yr Athro Llewellyn Jones: "Mewn sawl ffordd, roedd yr ymgyrch yng Ngwlad Groeg yn llwyddiant i Xerxes. Llwyddodd yn ei nod i ysbeilio Athen a threchu'r Atheniaid. Ac eto, er nad oedd llwyddiant byddin y Persiaid yn Salamis wedi peri gormod o bryder i'r Ymerodraeth Bersiaidd a barhaodd i ffynnu am 150 mlynedd wedi hynny, ni ellir gwadu ei fod yn drobwynt o ran sut oedd y Groegiaid yn gweld eu hunain, ac yn fan cychwyn i'r ideoleg Groegaidd o ryddid."

Mae'r Athro Lloyd Llewelyn Jones yn ymuno mewn sgwrs â'r cyflwynydd Melvyn Bragg, â Dr Lindsay Allen (Coleg y Brenin, Llundain) a'r Athro Paul Cartledge (Caergrawnt).

Mae'r Athro Llewellyn-Jones  yn un o gylch bach a dethol sy'n arbenigo mewn Iran cyn-Islamaidd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn hanes a diwylliant hynafol Persia, hynafiaeth rhyngweithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin, a'r Dwyrain Agos hynafol. Mae ei lyfrau diweddar yn cynnwys King and Court in Ancient Persia 559-331 a Ctesias' History of Persia: Tales of the Orient.

Bydd Brwydr Salamis yn cael sylw ar raglen In Our Time, BBC Radio Four ar 23 Mawrth (09:00, a chaiff ei hailadrodd am 21:00).

Rhannu’r stori hon