Ewch i’r prif gynnwys

Magu merched i garu gwyddoniaeth

8 Mawrth 2017

girls stem

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y teulu cyfan wrth annog merched i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Dan arweiniad Wendy Sadler o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, mae cyfres o ddigwyddiadau'n helpu rhieni i oresgyn pryderon sydd ganddynt am yrfaoedd eu merched yn y dyfodol mewn pynciau STEM.

Caiff y digwyddiadau eu cynnal fel rhan o fenter genedlaethol Pobl Fel Fi Ymgyrch WISE, sy'n cynnig dull newydd o ennyn diddordeb merched mewn pynciau STEM, a'r bwriad yw cyflwyno merched, yn ogystal â'u teuluoedd, i'r cyfleoedd a'r posibiliadau gyrfa yn sgil astudio pynciau STEM ôl-16.

"Mae ymchwil yn dangos bod mamau'n gallu bod yn rhwystr mawr i ferched sy'n mynegi diddordeb mewn STEM" dywed Wendy.

"Yn aml maen nhw'n poeni na fydd eu merched yn hapus yn yr yrfa honno neu yn ansicr ynghylch pa fath o gyfleoedd gyrfa y gallai eu rhoi iddyn nhw.

"Drwy ein digwyddiadau ni, yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw ateb unrhyw bryderon ac annog mamau - a thadau - i helpu i fynd i'r afael â'r gogwydd mewn gyrfaoedd STEM a dangos i deuluoedd bod modd i'w merched fod yn hapus ac yn llwyddiannus yn y meysydd hyn," ychwanegodd.

Am y tro cyntaf yr wythnos hon, cynhaliwyd gweithdy gyda mamau a'u merched yn Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd, fel rhan o weithgareddau noson rieni.

Roedd dros 30 o deuluoedd yn rhan o'r gweithdy, pob un yn dymuno cael gwell dealltwriaeth o’r math o yrfaoedd STEM a allai gyd-fynd â sgiliau a phersonoliaethau eu merched.

Dywedodd Philippa Wallington, athrawes yn Ysgol Uwchradd Llanisien: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i annog rhagor o ferched i astudio pynciau Safon Uwch fel ffiseg a fyddai'n agor drysau iddyn nhw mewn gyrfaoedd gwahanol lle mae prinder o bobl ar hyn o bryd - yn enwedig ymhlith merched."

Fel rhan o'r digwyddiadau, mae merched mewn ysgolion ar draws de Cymru hefyd wedi cyfarfod â modelau rôl STEM o Brifysgol Caerdydd a dysgu mwy am eu gyrfaoedd drwy roi cynnig ar gwis rhyngweithiol hwyliog am y math o berson ydyn nhw a sut mae hynny'n cysylltu ag amrywiaeth eang o swyddi STEM.

Ychwanegodd Wendy: "Mae cyhoeddi'r adroddiad 'Menywod talentog ar gyfer Cymru lwyddiannus' yn ddiweddar yn amlygu'r angen i athrawon a theuluoedd fod yn rhan o drafodaethau ehangach ar yrfaoedd er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn economi Cymru.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymo i ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, gan amlygu manteision gyrfa mewn pynciau STEM ac annog mwy o fenywod a merched i'r meysydd hynny."

Caiff digwyddiadau Pobl fel Fi Prifysgol Caerdydd gefnogaeth Prosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol, sy'n cefnogi cyswllt uniongyrchol rhwng ymchwilwyr a myfyrwyr mewn addysg Gynradd, Uwchradd ac Addysg Bellach, ac sy’n cynnwys cyd-destunau ymchwil cyfoes ac ysbrydoledig yn y dysgu i wella a chyfoethogi'r cwricwlwm.

Rhannu’r stori hon