Ewch i’r prif gynnwys

Mapio allyriadau yn y dyfodol

2 Mawrth 2017

Port Talbot steel works

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn datblygu teclyn i ragweld allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru dros y 30 mlynedd nesaf.

Mae'r academyddion, yn cydweithio â BRE i ddatblygu'r teclyn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae BRE yn ganolfan sydd ar flaen y gad ym maes adeiladu gwyddoniaeth aml-ddisgyblaethol. Byddan nhw'n ei ddefnyddio er mwyn gosod targedau priodol a chyllidebau carbon ar gyfer y wlad gyfan yn ogystal â mesur y polisïau a'r cynigion sydd i'w cynnwys yn y Cynllun Cyflawni Carbon isel.

Bydd y teclyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn llunio polisïau a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf yn gosod targed hirdymor o leihau allyriadau statudol o leiaf 80% erbyn 2050 o'i gymharu â llinell sylfaen 1990.

Mae'r targedau hyn yn rhan o uchelgais byd-eang ehangach a gytunwyd arno gan 195 o lywodraethau cenedlaethol yng Nghynhadledd Pleidiau UNCCC (COP21) ym Mharis ym mis Rhagfyr 2015. Y bwriad yw cadw'r cynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd 2 radd Celsius yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol a gwneud ymdrech i gyfyngu cynnydd yn nhymheredd i 1.5 gradd Celsius yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol.

“Manteision ehangach i bobl Cymru”

Yn rhan o'r prosiect hwn bydd y tîm yn ymgysylltu â phob sector ledled Cymru, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, diwydiant a busnes, amaethyddiaeth, tai a gwastraff.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC: "Mae'r fframwaith deddfwriaethol a'r uchelgais hirdymor a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd yn rhoi cyfle gwych i ni lunio dyfodol carbon isel i Gymru...”

“Yr her i Lywodraeth Cymru yw datblygu polisïau a rhaglenni gwaith a fydd yn annog ein cymunedau i ddatgarboneiddio ynghyd â chreu swyddi a thwf economaidd, lleoedd bywiog i fyw a gweithio ynddynt a manteision ehangach i bobl Cymru."

Lesley Griffiths AC Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru

“Bydd datblygu teclyn ar gyfer arwain y ffordd at 2050 yn gwneud yn siŵr bod ein penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, gyfredol a pherthnasol.

Bydd Dr Monjur Mourshed o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn arwain y prosiect. Yn ddiweddar, datblygodd fodel tebyg ar gyfer Bangladesh ym meysydd ynni, allyriadau a bwyd hyd at 2050 a gellir ei weld yma.

Dywedodd Dr Mourshed: "Rydym yn falch o gael ein dewis i arwain y gwaith pwysig hwn. Mae'n garreg filltir ar gyfer datblygu polisïau a chamau gweithredu perthnasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn berthnasol yn lleol er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd ar draws y DU ac yn rhyngwladol...”

“Bydd cydweithio rhwng diwydiant ac academyddion yn arwain at sawl model arloesedd o'r gwaelod i fyny a fydd yn ystyried y galw am ynni ac amrywiaethau economaidd-gymdeithasol."

Yr Athro Monjur Mourshed Senior Lecturer - Teaching and Research

Mae gan BRE dros ddeng mlynedd o brofiad o gydweithio â Phrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, BRE sy'n ariannu Canolfan Ragoriaeth mewn Adeiladu Systemau a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ychwanegodd Andy Sutton, Cyfarwyddwr Cyswllt â BRE: "Mae pawb yn BRE yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect hwn a fydd yn sail i lywodraethu a llunio polisïau yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Bydd hefyd yn gwneud yn siŵr bod ganddynt declynnau rhagweld blaenllaw..."

“Mae'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd eisoes yn cael eu hadnabod fel arweinwyr yn y maes a bydd y teclyn newydd hwn i Gymru yn adeiladu ar eu gwaith diweddar ym Mangladesh."

Andy Sutton Cyfarwyddwr Cyswllt â BRE

Rhannu’r stori hon

The transformation and use of energy will become increasingly constrained by the need to reduce CO2 emissions.