Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cynnal sêr rygbi rhyngwladol

31 Hydref 2014

Cardiff Hosts International Rugby Stars

Wrth i gyfres o gemau rhyngwladol rygbi'r undeb yr hydref ddechrau'r penwythnos hwn, bydd Prifysgol Caerdydd yn croesawu pedwar o dimau gorau'r byd o hemisffer y de wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gemau yn erbyn Cymru.

Bob blwyddyn, mae'r Brifysgol yn darparu ei Chanolfan Cryfder a Chyflyru ym Mhlas y Parc, a'r caeau yn y Pentref Hyfforddi Chwaraeon – Talybont a chaeau chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni – i'r timau sy'n chwarae yn erbyn Cymru yng nghyfres rygbi rhyngwladol yr hydref.

Bydd y sgwadiau rygbi a fydd yn ymweld o Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica yn gwneud y mwyaf o gyfleusterau hyfforddi'r Brifysgol i fireinio eu ffitrwydd a'u gêm cyn y gemau yn Stadiwm y Mileniwm.

Dywedodd Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod gan dimau o'r radd flaenaf fel lleoliad hyfforddi blaenllaw a lleoliad hyfforddi delfrydol ar gyfer timau o'r safon hwn. Mae ein hamgylchedd yn seiliedig ar berfformiad a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn rhoi cyfle i sbortsmyn – ar bob lefel – ddatblygu a chyflawni eu llawn botensial.

"Rydym ni bob amser yn falch o groesawu'r timau rygbi rhyngwladol a chaniatáu iddyn nhw ddefnyddio ein cyfleusterau i baratoi ar gyfer eu gemau yn erbyn Cymru. Mae gweld chwaraewyr fel Dan Carter a'r Crysau Duon, Jean De Villiers a thîm y Sbringbocs, y Flying Fijians a'r Walabïaid o gwmpas y campws yn gyffrous iawn i ni a'r myfyrwyr."

Eleni fydd y tro cyntaf y bydd y timau sy'n teithio yn gallu hyfforddi ar gae pob tywydd 3G newydd y Brifysgol yng nghaeau chwaraeon y Brifysgol yn Llanrhymni. Mae'r cae wedi cael ei adeiladu i alluogi timau i hyfforddi ar gyfer rygbi a phêl-droed.

Y pedair gêm a gynhelir yng Nghaerdydd yw:

8 Tachwedd: Cymru v Awstralia

15 Tachwedd: Cymru v Fiji

22 Tachwedd: Cymru v Seland Newydd

29 Tachwedd: Cymru v De Affrica

Rhannu’r stori hon