Delio ag iselder ysbryd
8 Mehefin 2012
Wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, PLoS ONE, mae gwaith yr AthroDavid Linden o'r Ysgol Seicoleg, a Chanolfan Delweddu Ymchwil ar yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd, a'i dîm, wedi darganfod bod techneg a elwir yn adborth niwro yn helpu i leddfu symptomau iselder ysbryd.
Mae adborth niwro'n golygu gosod cleifion mewn sganiwr MRI lle mae gweithgaredd eu hymennydd yn cael ei fesur yn barhaus gyda delweddu cyseiniant magnetig gweithredol (fMRI) ac yn cael ei fwydo yn ôl iddynt.
Mae'r un grŵp ymchwil wedi defnyddio'r dechneg hon ar glefyd Parkinson.
Yn yr astudiaeth bresennol, dangoswyd lluniau cadarnhaol, negyddol a niwtral i wyth claf er mwyn helpu darganfod y mannau yn eu hymennydd sy'n ymwneud â phrosesu emosiynau cadarnhaol.
Yn dilyn hyn gofynnwyd i'r cleifion gynyddu'r gweithgaredd yn y fan hon drwy gymryd rhan mewn delweddaeth emosiynol gadarnhaol. Yn ystod y dasg hon derbyniodd cleifion adborth drwy gyfrwng dangosydd thermomedr ar sut roeddent yn gwneud fel y gallent brofi effeithiolrwydd gwahanol strategaethau meddyliol.
"Dyma'r tro cyntaf i'r weithdrefn adborth niwro hon gael ei defnyddio ar gyfer iselder ysbryd," yn ôl yr Athro Linden, a arweiniodd yr ymchwil.
Gan ddefnyddio'r dechneg hon, canfu'r ymchwilwyr fod yr holl gleifion yn gallu rheoli'r gweithgaredd yn y rhwydweithiau emosiwn a dargedwyd. Gwelwyd gwelliant arwyddocaol yn eu hiselder ysbryd yn dilyn yr ymyriadau. Ni newidiwyd dos eu meddyginiaeth yn ystod yr astudiaeth.
Gwnaeth wyth claf arall a gafodd eu rhoi mewn grŵp rheoli berfformio'r union dasg delweddaeth emosiynol gadarnhaol y tu allan i'r sganiwr, ond ni welwyd unrhyw welliannau clinigol yn y grŵp hwn.
Ychwanegodd yr Athro Linden: "Mae canlyniadau'r peilot cychwynnol yn rhagarweiniol ac mae angen rhagor o ymchwil i asesu'r buddion clinigol posibl i gleifion. Nid ydym yn disgwyl i hyn ddod yn declyn triniaeth ar ei ben ei hun, ond yn hytrach yn rhan bosibl o becynnau triniaeth cynhwysfawr."
Mae'r tîm eisoes wedi dechrau ar brawf rheoledig mwy o faint, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), er mwyn gwerthuso'r effeithiau therapiwtig posibl ar iselder ysbryd.
"Un o agweddau diddorol y dechneg hon yw ei bod yn rhoi'r profiad o reoli agweddau ar weithgareddau eu hymennydd eu hunain i gleifion. Roedd gan lawer ohonynt ddiddordeb mawr yn y ffordd newydd hon o gysylltu â'u hymennydd," ychwanegodd yr Athro Linden.