Ewch i’r prif gynnwys

Tîm Caerdydd yn creu dyluniad anferth o 25,000 o bensiliau

8 Chwefror 2017

25000 pencils

Staff a myfyrwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn arddangos strwythur dylunio gwreiddiol yn Barcelona

Mae staff a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi teithio i un o ddinasoedd mwyaf godidog Ewrop er mwyn cydosod dyluniad gwreiddiol sydd ychydig yn wahanol i'r arfer.

Mae'r tîm o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi teithio i Barcelona i ymuno â'u cyfoedion yn Escuela Técnica Superior de Arquitectura de Barcelona er mwyn creu dyluniad celf sy'n cynnwys hyd at 25,000 o bensiliau.

Er na allai'r gwaith gorffenedig gystadlu â gwaith pensaernïol mawreddog Gaudi, nod y prosiect oedd herio rhagdybiaethau o'r hyn y mae'n ei olygu i gydweithio, a phwysleisio'r angen am ryngweithio pwrpasol rhwng grwpiau o fyfyrwyr o'r ddau sefydliad.

Cymerodd 250 o bobl ran yn y prosiect, ac ychwanegodd bob un ohonynt 100 o bensiliau i'r dyluniad dros gyfnod o ddiwrnod.

Nid oedd prif gynllun i'w ddilyn a dim ond cyfarwyddiadau syml a ddarparwyd i bawb a gymerodd ran am sut i gysylltu'r pensiliau drwy ddefnyddio bandiau rwber.

Dywedodd Sergio Pineda, darlithydd o Ysgol Pensaernïaeth Cymru a gymerodd ran yn y prosiect: "Anaml iawn mewn ysgolion pensaernïaeth, neu sefydliadau dylunio yn gyffredinol, yn ystyried dylunio fel ymdrech ar y cyd. Hynny yw, meddwl am ddylunio fel rhywbeth a all ddod i'r golwg o ganlyniad i gynyddu'r ymdeimlad o gymuned neu o ymdeimlad o gyflawni ar y cyd rhwng grŵp mawr o unigolion.

"Cafodd y dyluniad ei greu y dyluniad fel llwyfan i gynyddu'r pethau cyffredin a'r cysylltiadau ymhlith y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y gweithdy."

Adeiladwyd y dyluniad yn MUHBA Oliva Artés a bydd yn cael ei arddangos rhwng dydd Mercher 1 Chwefror a dydd Mercher 22 Chwefror.

Rhannu’r stori hon