Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth myfyriwr ar de yn ennill gwobr

18 Gorffennaf 2012

William McCully
William gyda phlanhigyn te yn yr Ardd Fontaneg Genedlaethol

Mae gwaith ymchwil gan fyfyrwyr o Gaerdydd ar y ffordd y mae te'n gallu rhwystro arch-fyg mewn ysbytai wedi ennill gwobr iddo am ymchwil ar y cyd yng Nghymru.

Mae William McCully'n fyfyriwr PhD trydedd flwyddyn yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, ac mae'n gweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i geisio darganfod pa gydrannau mewn te sy'n gyfrifol am ei weithgarwch gwrthfacterol yn erbyn Clostridium difficile.

Mae gwaith ymchwil William wedi ennill gwobr cyflwyno gan raglen Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS), sef prosiect ymchwil ar y cyd a sgiliau lefel uwch a gaiff ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe'i cefnogir gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ac erbyn 2015 bydd KESS yn darparu dros 400 o Ysgoloriaethau PhD a Meistr mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol gan ganolbwyntio ar bedwar sector ymchwil a datblygu blaenoriaethol Llywodraeth Cymru.

Mae KESS yn cynnal digwyddiad blynyddol lle mae myfyrwyr ac academyddion ledled Cymru'n cael cyfle i rannu eu profiadau a chystadlu mewn cystadleuaeth gyflwyno gyda'u gwaith ymchwil. Yn y digwyddiad eleni, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, enillodd William gyda chyflwyniad o'r enw Te - cynnyrch naturiol ar gyfer heintiau mewn ysbytai.

Mae priodweddau meddyginiaethol te wedi bod yn hysbys iawn ers canrifoedd, yn enwedig mewn meddygaeth Tsieineaidd. Yn fwy diweddar, mae ymchwil wyddonol wedi dangos bod gan de briodweddau gwrthfacterol, gwrthganser a gwrthfeirysol, oherwydd presenoldeb grŵp o wrthocsidyddion o'r enw polyffenolau, yn ôl pob sôn. Mae Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd wedi darganfod erbyn hyn bod te yn atal twf 'arch-fyg' ysbytai Clostridium difficile.

Esboniodd William: "Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi bod yn darganfod pa gemegyn mewn te sy'n effeithiol yn erbyn yr arch-fyg a sut yn union y mae'n gweithio. Gyda'r wybodaeth hon, rydym yn ceisio addasu amodau tyfu planhigfa fach o blanhigion Camellia sinensis yr haf hwn i gynhyrchu 'uwch-de' sydd â llawer o bolyffenolau ac sy'n weithgar iawn yn erbyn bacteria. Y nod yn y pen draw yw llwyddo i gynhyrchu te naturiol gwell a fydd yn glinigol effeithiol yn erbyn haint Clostridium difficile."

Rhannu’r stori hon