Ewch i’r prif gynnwys

Y Ganolfan Almaeneg achrededig gyntaf yng Nghymru

17 Hydref 2012

Goethe Institut logo

Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd yw'r darparwr iaith cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu gan y Goethe-Institut i gynnal arholiadau Almaeneg a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Y Goethe-Institut, sydd â'i bencadlys ym Munich, yw sefydliad diwylliannol Gweriniaeth Ffederal yr Almaen a'i bwrpas yw hyrwyddo gwybodaeth am iaith a diwylliant yr Almaen dramor. Mae eu harholiadau yn cyfateb i lefelau'r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Gyffredin i Ieithoedd (CEFR) ac maent yn adnabyddus drwy'r byd ac yn cael eu derbyn fel cymhwyster gan gyflogwyr.

Ar ôl asesu'r Ganolfan a'i darpariaeth Almaeneg, arwyddodd y Goethe-Institut gytundeb partneriaeth i gynnal arholiadau y Goethe-Institut ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Helga Eckart, sy'n Uwch Ddarlithydd yn y Ganolfan: "Gyda'r Almaen yn wlad gyda'r bwysicaf ar gyfer cyflogaeth i bobl o Brydain gobeithir y caiff llawer eu hannog i sefyll yr arholiadau hyn. Mae'n gyffrous iawn i ni y byddwn, o 2013 ymlaen, yn ganolfan arholi i'r Goethe-Institut ac rwyf wrth fy modd mai ni yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru, a'r unig un, i lofnodi cytundeb o'r fath."

Bydd y dewis o gyrsiau Almaeneg a gynigir gan y Ganolfan, o ddechreuwyr i gyrsiau uwch, yn rhoi digon o gyfle i ymarfer ar gyfer y tystysgrifau hyn.

Dywedodd Juliana Nau, sy'n Diwtor Almaeneg yn y Ganolfan: "Bydd sefyll rhai o arholiadau'r Goethe-Institut yn amlygu camau ar eich cynnydd ac yn tystio i lefel eich gallu ar unrhyw adeg benodol. Mae arholiadau'r Goethe-Institut yn cynnig rhai o'r cymwysterau Almaeneg a gydnabyddir fwyaf ac fe'u cynigir ar chwe lefel wahanol, o'r sylfaenol at bron â bod yn rhugl fel brodor. Seilir hwy'n gyfan gwbl ar sgiliau yn hytrach na'u bod yn academaidd yn bennaf. Mewn geiriau eraill, mae cyfathrebu llafar, gwrando ar newyddion a chyfweliadau, darllen negeseuon testun ac e-bost yn uchel ar yr agenda. Mae'r rhan fwyaf o'n dosbarthiadau Almaeneg yn dilyn maes llafur a fydd yn eich paratoi ar gyfer yr arholiadau hyn ."

Dros y blynyddoedd mae cysylltiadau cryfion gyda Pharis, Madrid a Sienna wedi eu datblygu ar gyfer y cymwysterau DELF/DALF mewn Ffrangeg , y DELE mewn Sbaeneg a'r CILS mewn Eidaleg ac yn fwy diweddar y cymwysterau Cyfieithu Gwasanaeth Cyhoeddus y mae llawer o fyfyrwyr wedi elwa arnynt.

Rhannu’r stori hon