Ewch i’r prif gynnwys

Moler

26 Hydref 2012

Arlene Sierra
Arlene Sierra

Mae Cerddorfa Symffonig Seattle yn perfformio perfformiad cyntaf y byd o ddarn newydd a gomisiynwyd wrth gyfansoddwr yng Nghaerdydd.

Ysbrydolwyd Moler, sef cyfansoddiad symffonig newydd, gan Dr Arlene Sierra, o'r Ysgol Gerddoriaeth gan y band 'grunge' Alice in Chains a bydd y perfformiad cyntaf yn Neuadd Benaroya Seattle ar 26 Hydref 2012.

Bydd cynulleidfaoedd Caerdydd yn gallu clywed Moler pan gaiff ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU fis nesaf (23 Tachwedd 2012) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod Golwg ar Gymru, sef dathliad arbennig o gyfansoddwyr a aned yng Nghymru neu sy'n gweithio yma.

Comisiynwyd Moler fel rhan o 'Sonic Evolution', sef prosiect gan gerddorfa Symffonig Seattle sy'n dathlu gorffennol a dyfodol sîn gerddoriaeth y ddinas. Mae gwaith Arlene, sy'n cymryd ei enw o'r gair Sbaeneg sydd â'r ystyr "malu", yn ymateb i etifeddiaeth Alice in Chains a chafodd ei ysbrydoli gan eu cân Grind. Bruxism yw'r malu a ddisgrifir, sef malu'r dannedd a achosir gan bryder.

Dywedodd Arlene said: "I mi roedd gan y math hwn o falu arwyddocâd cerddorol o arwedd, nerfusrwydd ac egni. Wrth ddarllen am bruxism, des i ar draws ymchwil sy'n dangos bod cyfradd curiad calon rhywun sy'n cysgu yn cynyddu wrth iddo falu ei ddannedd yn y nos, a gellir priodoli amrywiadau i gyfnodau o freuddwydio.

Ysbrydolodd y cydberthnasau hyn amrywiaeth o agweddau rhythmig y darn. Yn unol â bruxism a phatrymau cysgu, mae'r egni yn y darn yn symud o fod yn fwy gorffwyll i fod yn fwy ymlaciedig ac yn ôl, tra bod y pwls hanfodol yn aros oddi tano."

Rhannu’r stori hon