Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduriaeth Ddigidol

10 Gorffennaf 2012

Professor Bob Franklin
Professor Bob Franklin

Mae ymchwil blaengar sy'n canolbwyntio ar natur newidiol newyddiaduriaeth yn yr oes ddigidol am gael ei dwyn ynghyd mewn cyfnodolyn newydd a adolygir gan gymheiriaid sy'n cael ei lansio gan athro ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Digital Journalism, a sefydlwyd ac a olygir gan yr Athro Bob Franklin o'r Ysgol Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn darparu fforwm beirniadol ar gyfer trafod, dadansoddi ac ymateb i'r newidiadau a achosir ym maes newyddiaduriaeth gan dechnoleg ddigidol.

Mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys newyddiaduriaeth ddinasyddion a chyfranogol; newyddiaduriaeth ddigidol, protest a democratiaeth; Wikileaks a ffurfiau newydd ar newyddiaduriaeth ymchwiliol; a chyfryngau cymdeithasu fel ffynonellau a gyrwyr newyddion.

Yn ogystal ag archwilio goblygiadau eang technolegau digidol ym maes newyddiaduriaeth, bydd hefyd yn ymdrin â datblygiadau economaidd, gwleidyddol a diwylliannol cysylltiedig.

Medai'r Athro Franklin: "Mae datblygiadau radical ym myd newyddiaduriaeth yn newid pob agwedd ar gynhyrchu, a derbyn newyddion, yn ogystal â'i gynnwys. Mar hyn yn digwydd ar gyflymdra dramatig sydd wedi trawsnewid 'y cyfryngau newydd' yn 'gyfryngau etifeddol' ymhen prin ddegawd.

"Mae'r newidiadau hollbwysig hyn yn herio tybiaethau traddodiadol o ran arfer, ysgolheictod ac addysg newyddiaduriaeth, yn peri i ffiniau diffiniol fod yn hyblyg ac yn golygu bod angen ailasesu hyd yn oed y cwestiynau mwyaf sylfaenol megis "Beth yw newyddiaduriaeth?" a "Phwy yw newyddiadurwr?"

"Bydd Digital Journalism yn dod ag ysgolheigion blaenllaw at ei gilydd i rannu eu gwaith, ac i helpu i ddeall effaith sylweddol technoleg ddigidol ar arferion gwaith newyddiaduriaeth ledled y byd."

Caiff Digital Journalism ei gyhoeddi dair gwaith y flwyddyn o Chwefror 2013 ymlaen. Mae ei fwrdd golygyddol yn cynnwys yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd Newyddiaduriaeth Ddigidol yn y Brifysgol a'r Athro Robert McChesney o Brifysgol Illinois. Mae'n ymuno â'r cyfnodolion hirsefydlog Journalism Studiesa Journalism Practice, a olygir hefyd gan yr Athro Franklin ac a gyhoeddir gan Routledge

Rhannu’r stori hon